Gorchymyn i feddyg o Fôn gofrestru fel troseddwr rhyw
- Cyhoeddwyd
Mae meddyg iau o Landegfan, Ynys Môn wedi cael gorchymyn i gofrestru fel troseddwr rhyw am bum mlynedd wedi iddo bledio'n euog i fod â delweddau anweddus yn ei feddiant.
Yn Llys Ynadon Caernarfon cafodd Dr Mohsan Anwar orchymyn cymunedol am 12 mis, sy'n golygu bod yn rhaid iddo wneud 300 awr o waith di-dâl a bydd yn rhaid iddo dal £170 mewn costau.
Clywodd y llys bod delwedd anweddus o fachgen ym meddiant Dr Anwar ynghyd â thair delwedd o bornograffi eithafol a oedd yn ymwneud â dynion rhwng Hydref 2018 ac Ionawr y llynedd.
Yn ystod y gwrandawiad dywedodd cadeirydd y fainc, Alastair Langdon: "Ry'ch chi'n hynod o ffodus gan fod y troseddau yma yn rhai difrifol iawn.
"Ry'n ni'n gwybod nad chi eich hun wnaeth eu huwchlwytho a phetaech chi wedi dweud y gwir ar y dechrau mae'n debyg na fyddech yma heddiw.
"Ry'n ni wedi clywed eich bod yn ddyn da, does gennych ddim euogfarnau blaenorol, eich bod yn edifar ac nad chi oedd yn gyfrifol am y delweddau ond fe wnaethoch chi eu darllen.
"Roeddech yn ddigon ffôl i ddymuno bod yn aelod o grŵp WhatsApp o ddynion oedd yn eu trafod."
'Dyn cydwybodol'
Roedd sawl geirda gan ffrindiau a goruchwyliwr wedi canmol gwaith y meddyg gan ddweud ei fod yn "ddyn cydwybodol sy'n gweithio'n galed" ond ei fod wedi gwneud camgymeriad.
Clywodd y llys hefyd bod Dr Anwar yn hynod o siomedig am yr hyn oedd wedi'i wneud.
Dywedodd Sue Green, un o gyfarwyddwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod "Dr Anwar wedi'i eithrio am y tro a bod ei raglen hyfforddant yn ddibynnol ar ganlyniad ymchwiliad ond mai'r gobaith yw gorffen y broses mor fuan â phosib".