'Daliwch y racŵn-gi' yn Sir Gaerfyrddin meddai'r gweinidog amgylchedd

  • Cyhoeddwyd
Racŵn-giFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r racŵn-gi yn agosach at lwynog nag ydyw at gi

Dylai racŵn-gi a gafodd ei weld yn Sir Gaerfyrddin gael ei ddal, meddai gweinidog amgylchedd Cymru.

Mae Lesley Griffiths yn disgwyl i Gyfoeth Naturiol Cymru "weithredu mesurau difa cyflym yn unol â Rheoliad yr UE".

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi annog y cyhoedd i gadw draw ohono ond i gysylltu â'r RSPCA.

Mae'r RSPCA yn pwysleisio na ddylid cadw'r anifeiliaid "hynod ddrewllyd" fel anifeiliaid anwes.

Mae'r racŵn-gi yn greadur tebyg i lwynog, yn frodorol o Ddwyrain Asia gydag wyneb tebyg i racŵn ond mae'n aelod o deulu'r ci.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru wrth BBC Cymru eu bod wedi derbyn ac wedi cadarnhau adroddiad am racŵn-gi a welwyd gan aelod o'r cyhoedd ger Pumsaint, Sir Gaerfyrddin ar 27 Mai.

Ychwanegodd y llefarydd mai hwn oedd yr ail adroddiad o racŵn-gi yn y gwyllt yng Nghymru, ar ôl adroddiad wedi'i gadarnhau bod dau ohonynt wedi dianc ger Esgairdawe, Sir Gaerfyrddin ym mis Awst 2019 - ni ddaliwyd yr un ohonynt.

Dywedodd Llywodraeth Cymru yr wythnos ddiwethaf bod "Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i swyddogion wneud cais ffurfiol am gymorth oddi wrth Gyfoeth Naturiol Cymru i ddal y racŵn-gi a gweithredu mesurau difa cyflym yn unol â Rheoliad yr UE ar atal a rheoli cyflwyno rhywogaethau goresgynnol estron ac atal rhywogaethau o'r fath rhag lledaenu".

Wrth ymateb i gwestiwn ynghylch beth a ddigwyddodd rhwng gweld y racŵn-gi ym mis Mai a phenderfyniad y gweinidog yr wythnos diwethaf, dywedodd llefarydd fod "nifer o gamau wedi'u cymryd i roi trefniadau ar waith i reoli'r sefyllfa".

Beth yw racŵn-gŵn?

  • Yn frodorol i goedwigoedd dwyrain Siberia, gogledd Tsieina, gogledd Fietnam, Korea a Japan

  • Bellach yn gyffredin mewn rhai gwledydd Ewropeaidd oherwydd iddynt ddianc

  • Yn bwydo ar bryfed, cnofilod, amffibiaid, adar, pysgod, molysgiaid a chig

  • Mae'r RSPCA yn annog pobl yn "gryf" i beidio â'u cadw fel anifeiliaid anwes

  • "Eithriadol o ddrewllyd", meddai'r elusen, oherwydd eu bod yn defnyddio arogl i gyfathrebu

Ffynhonnell: RSPCA, dolen allanol

Ym mis Chwefror 2019 ychwanegodd yr Undeb Ewropeaidd racŵn-gŵn at Restr o Rywogaethau Estron Goresgynnol o Bryder i'r Undeb, sy'n ceisio rheoli poblogaethau y bernir eu bod yn niweidiol i fywyd gwyllt brodorol.

Gall perchnogion presennol gadw'r anifeiliaid, ond gwaharddir bridio neu werthu pellach.

Mae hefyd yn drosedd o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd) i ryddhau'r anifeiliaid hyn - neu ganiatáu iddynt ddianc - i'r gwyllt oherwydd nad ydyn nhw'n rhywogaeth frodorol i'r DU.

Yn wreiddiol o'r Dwyrain Pell, cafodd racŵn-gŵn eu cyflwyno i ddwyrain Ewrop fel rhan o'r fasnach ffwr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae racŵn-gŵn yn cael eu ffermio am eu ffwr ledled y byd, gan gynnwys yma yn Tsieina

Tan yn gymharol ddiweddar roedden nhw yn cael eu masnachu'n agored fel anifeiliaid anwes egsotig, ond mae'r RSPCA (Cymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid) yn pwysleisio ei fod yn syniad drwg.

Dywedodd llefarydd ar ran yr RSPCA: "Mae'n eithriadol o anodd diwallu anghenion racŵn-gŵn fel anifeiliaid anwes ar aelwyd nodweddiadol.

"Mae angen llawer iawn o le ar yr anifeiliaid hyn, gallan nhw fod yn eithaf dinistriol i gartrefi ac maen nhw yn hynod ddrewllyd wrth iddyn nhw ddefnyddio eu harogl i gyfathrebu â'i gilydd.

"Mae RSPCA Cymru wedi bod yn poeni ers amser maith am dueddiadau o gadw racŵn-gŵn fel anifeiliaid anwes. Rydym yn annog pobl yn gryf i beidio eu cadw fel anifail anwes."

Ychwanegodd y llefarydd, "rydym yn gobeithio y bydd y racŵn-gi yn cael ei ddal yn ddiogel a'i drosglwyddo i gyfleusterau addas lle gall fyw am weddill ei oes."

Dywedodd cynrychiolydd Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae CNC yn cefnogi Llywodraeth Cymru, yr heddlu, ac Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Anfrodorol Prydain Fawr.

"Os ydych chi'n meddwl efallai eich bod wedi gweld racŵn-gi (yn farw neu'n fyw) rhowch wybod i linell ffôn digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000 (llinell 24 awr yw hon) ynghyd â'r lleoliad / cyfeirnod grid ac, os yn bosibl, llun neu fideo.

"Fel gydag unrhyw anifail gwyllt, gall ei ymddygiad fod yn anrhagweladwy ac ni ddylid mynd yn agos atynt."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gallai racŵn-gŵn gystadlu â llwynogod a moch daear brodorol am fwyd a lloches