'Lleidr yw dementia sydd wedi dwyn galluoedd Elin'
- Cyhoeddwyd
"Roeddwn i'n gwybod bod rhywbeth yn bod ond roedd clywed fy mod yn mynd i orfod byw gyda dementia weddill fy mywyd yn sioc ac yn brofiad ofnadwy," meddai'r llenor Elin ap Hywel, sy'n byw yn Llanilar ger Aberystwyth.
"Rwy'n teimlo'n dda ond rwy'n poeni mod i methu 'neud pethe - dwi methu gweithio ar y cyfrifiadur rhagor a ddim yn mynd allan rhyw lawer heb fy mhartner - fi'n poeni y gallai rhywbeth fynd o'i le.
"Dwi weithiau yn gallu dal y bws a dwi wedi llwyddo i ffonio ffrind unwaith neu ddwy. Mae'r teulu a'r gath yn help mawr i fi a dwi'n hynod o falch o'r gyfrol farddoniaeth."
Rhyw hanner brawddegau oedd gweddill y sgwrs wrth i Elin anghofio neu fethu canolbwyntio ar beth oedd ganddi i ddweud er yn ymdrechu'n galed i wneud hynny.
Mae Elin, sy'n ei phumdegau, yn byw gyda dementia ac mae ffrind agos iddi, Menna Elfyn, gyda chymorth ffrind arall, Beth Thomas, newydd gasglu ei cherddi a'u cyhoeddi yn y gyfrol Dal i Fod.
'Methu ysgrifennu rhagor'
"Yn ystod y cyfnod clo mae wedi bod yn sobor o anodd peidio gweld Elin. Mae sgwrsio ar y ffôn yn llawer mwy anodd - chi ddim yn gweld ei hymateb," meddai Menna Elfyn.
"Mae Elin wedi cyfieithu llawer iawn o'm gwaith ac mae hi'n un o'r cyfieithwyr disgleiriaf gan fod ganddi afael arbennig ar y Gymraeg a'r Saesneg.
"Rwy'n credu mai rhyw dair blynedd yn ôl sylwais i nad oedd Elin yn iawn - rhyw feddwl mai teimlo'n isel o'dd hi ro'n i ddechrau ond yn fuan cafodd ddiagnosis o dementia.
"Mae'r sawl sy'n gyfarwydd â'i gwaith yn gwybod bod cerddi Elin yn llawn dychymyg effro, yn llawn syniadau annisgwyl a mynegiant ffres ond yn drist iawn 'dyw hi ddim yn gallu ysgrifennu rhagor.
"Proses chwerwfelys oedd hi felly i gasglu'r cerddi wrth i'w chof ballu ond wedi dweud hynny mae ei hiwmor yn aros a'i haddfwynder tyner."
Enillodd Elin Fedal Lenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mae Colwyn yn 1980 pan yn 18 oed. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf Pethe Brau yng nghyfres y beirdd answyddogol yn 1982 ac wedi hynny mae nifer o'i cherddi wedi ymddangos mewn blodeugerddi ac mae wedi cyfieithu nifer o destunau.
"Roeddwn wedi ei hannog sawl tro i gyhoeddi cyfrol ond doedd hi byth yn gwneud ac mae'n fraint cyhoeddi'r casgliad yma - mae'n fardd o bwys, ac er yn dawel ei mynegiant wrth ddarllen y cerddi yn ei hieuenctid, roedd hi'n heriol ac yn lais gwych i lenyddiaeth merched," ychwanegodd Menna Elfyn.
Mewn cyfweliad blaenorol, dywedodd Elin ap Hywel mai yn Hamburg yn Yr Almaen oedd hi pan sylweddolodd fod rhywbeth yn bod a bod hi'n teimlo ryw rwystredigaeth wrth iddi ofni mynd ar goll a cholli'r gallu i ddeall pobl yn siarad.
Braidd yn bell yn nyfnder y cof y mae'r profiad hwnnw bellach ac wedi pob cwestiwn mae Elin yn sicrhau ei bod yn hapus ei byd. Yn y gorffennol mae hi wedi bod yn annog pobl sy'n credu bod rhywbeth o'i le i gael diagnosis buan.
"Dwi'n cymryd fy meddyginiaeth ac mae hwnna'n iawn," meddai, "gyda chefnogaeth fy mhartner Hywel a'r mab.
"Does dim angen poeni, mae yna bobl sy'n gallu helpu chi a sy'n gallu siarad gyda chi."
'Lleidr yw dementia'
Mae elusen Alzheimer's Society Cymru yn credu y gallai hyd at 2,000 o bobl iau yng Nghymru fod yn byw gyda dementia heb yn wybod iddyn nhw ac maent wedi galw am hyfforddiant i feddygon teulu er mwyn deall y cyflwr yn well.
"Lleidr yw dementia, lleidr sy'n dwyn galluoedd," meddai ffrind Elin, Beth Thomas.
"Trin geiriau yw dawn arbennig Elin, yn fardd ac yn gyfieithydd. Wrth ddwyn hynny oddi arni, mae'r lleidr wedi taro ergyd tu hwnt o greulon... Er gwaethaf yr hen leidr, mae Elin yr anwylaf o ffrindiau yn dal i fod."
"Ydi mae'n braf gallu casglu ei gwaith ynghyd yn y gyfrol hon - mae ganddi lawer mwy o gerddi gwych mewn ieithoedd eraill hefyd ac ar un adeg roedd hi'n gwbl rhugl yn Y Wyddeleg," ategodd Menna Elfyn.
"Dwi ddim yn cofio pa un yw fy hoff gerdd," meddai Elin, "ond dwi mor hapus 'da'r gyfrol ac ydw, dwi dal i fod."
Erthygl gan Sarah Down-Roberts
Hefyd o ddiddordeb: