Trefniadau meddygol arbennig i dwristiaid Llŷn ac Eifionydd
- Cyhoeddwyd
O ddydd Sadwrn ymlaen mi fydd ymwelwyr yn cael aros mewn unedau hunan-arlwyo, ac yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog ddoe mi fydd gwersylloedd gwyliau yn cael ailagor ar 25 Gorffennaf.
I bob pwrpas felly mi fydd y diwydiant ymwelwyr yng Nghymru yn agored, ac o ganlyniad bydd miloedd yn heidio i'r trefi glan môr a'r canolfannau gwyliau traddodiadol.
Ac er bod nifer yr achosion o coronafeirws wedi lleihau yn sylweddol, mae'r risg yn bodoli o hyd.
Pob haf mae meddygfeydd Llŷn ac Eifionydd yn dod o dan bwysau oherwydd nifer yr ymwelwyr ac mae'r meddygon yn gwneud trefniadau arbennig ar eu cyfer.
Ond eleni maen nhw wedi gorfod gwneud trefniadau gwahanol.
'Pryder yn y gymuned'
Mae Dr Eilir Hughes, arweinydd Clwstwr Meddygon Dwyfor yn ymwybodol o'r pryderon yn lleol y gall y feirws ymledu yn sgil yr ymwelwyr.
"Does dim dwywaith fod yna dipyn o bryder allan yn y gymuned, yn enwedig gyda phobl sydd yn fwy bregus neu gydag aeloda' bregus yn eu teuluoedd," meddai.
"Maen nhw yn aml yn ffonio eu meddyg i ofyn am eu barn nhw a 'dan ni yn trio lleddfu mymryn o'r pryder hynny.
"Os ydych chi allan yn yr awyr agored mae'r siawns o ddal y feirws mewn amgylchiadau felly yn llawer, llawer llai.
"Y perygl efo hwn ydy os ydych chi dan do ac o fewn gwynt rhywun sydd hefo fo, ond os ydych chi'n cymryd camau cyfrifol i osgoi bod mewn amgylchiadau felly, dydw i ddim yn gweld yr angen i boeni gymaint â hynny os ydy llawer o ymwelwyr yn dod yma."
Ers rhai blynyddoedd mae meddygon yr ardal wedi bod yn cydweithio i wneud trefniadau arbennig ar gyfer ymwelwyr, ac eleni mi fydd y gwasanaeth, ar gyfer yr ardal yn ymestyn o Flaenau Ffestiniog i Aberdaron wedi ei ganoli yn Ysbyty Bryn Beryl ger Pwllheli.
Bydd hyn yn golygu na fydd ymwelwyr yn mynd i'r meddygfeydd lleol.
'Saffach i ymwelwyr ddod'
Pan ddechreuodd y feirws ymledu ddiwedd Chwefror a dechrau mis Mawrth roedd Dr Hughes yn hynod feirniadol o'r ffaith fod ymwelwyr yn dal i ddod i'r ardal ac roedd o'n poeni am ymlediad y clefyd.
"O'n i'n flin iawn bod yna ddim camau yn cael eu cymryd i amddiffyn nid yn unig y boblogaeth ond hefyd y Gwasanaeth Iechyd," meddai.
"Ychydig ddyddiau wedyn mi ddaeth y lockdown ac mi ddaru hynny lwyddo i amddiffyn yr NHS, a dyna be oedd ei bwrpas o.
"Ond gan fod y niferoedd wedi dod lawr, ac yn llawer is na'r hyn oedden ni'n ofni y byddai o yn cyrraedd, dwi rŵan yn teimlo ei bod yn saffach i adael i ymwelwyr ddod."
Ond ychwanegodd Dr Hughes ei bod yn sefyllfa anodd gan fod rheolau gwahanol yng Nghymru a Lloegr.
"Y cwestiwn dwi wastad yn ei ofyn ydy be ydy'r strategaeth, yma yng Nghymru a dros y ffin yn Lloegr," meddai.
"Dwi'n meddwl na fedrwch chi gael dwy strategaeth wahanol efo cymysgedd o boblogaethau gwahanol drwy'r ddwy wlad.
"Mae Mark Drakeford wedi dweud y byddai o'n hoffi gwaredu'r feirws yma yng Nghymru ond dwi ddim yn gallu gweld hynny'n bosib tra rydach chi'n cael pobl yn dod o wlad arall sydd ddim hefo'r un polisi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2020