Wyth o wartheg wedi'u lladd ar safle ymarfer y fyddin

  • Cyhoeddwyd
CastellmartinFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhannau o safle Maes Tanio Castellmartin yn cael eu rhentu i ffermwyr

Mae wyth o wartheg wedi cael eu lladd ar ddamwain ar safle ymarfer y fyddin yn Sir Benfro.

Cafodd pedair buwch arall eu hanafu yn y digwyddiad ym Maes Tanio Castellmartin ddydd Gwener.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn bod y gwartheg wedi symud i ardal tu ôl i dargedi saethu.

Yn ôl y weinyddiaeth mae rhywun yn sicrhau bod yr ardal tu ôl i'r targedau yn glir cyn dechrau pob ymarferiad, ond fe wnaeth y gwartheg symud yno wedi i hyn ddigwydd.

Ychwanegon nhw fod y ffermwr wedi cael gwybod am y digwyddiad a'i wneud yn ymwybodol o'i hawliau.

Mae Cangen Ymchwilio i Ddamweiniau Amddiffyn wedi'i hysbysu a bydd Adroddiad Digwyddiad Difrifol yn cael ei baratoi.