Rhedwraig wedi'i tharo gan 4x4 ger Pen-y-Bont ar Ogwr

  • Cyhoeddwyd
HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Heddlu De Cymru'n ymchwilio wedi i redwraig gael ei tharo gan gerbyd 4x4 ym Merthyr Mawr, Pen-y-bont ar Ogwr ar nos Fawrth, 7 Gorffennaf am 08:45.

Roedd menyw yn loncian ar hyd Heol New Inn i gyfeiriad Canolfan Arddio Ewenni, pan yrrodd cerbyd 4x4 mewn iddi o'r tu ôl, gan daro ei chefn a'i choesau.

Cafodd y fenyw ei chodi gan y gwrthdrawiad a glanio ar flaen y cerbyd, cyn disgyn i ffwrdd a glanio mewn gwrych.

Fe yrrodd y cerbyd i ffwrdd heb stopio yn dilyn y digwyddiad.

Cafodd ei chludo i Ysbyty Tywysoges Cymru, lle cafodd driniaeth am fân anafiadau.Mae'r heddlu nawr yn chwilio am gerbyd Nissan X trail oedd yn cael ei yrru gan fenyw oedrannus. Maen nhw'n credu taw dyma pwy oedd yn gyfrifol am y gwrthdrawiad.

Mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un sydd a gwybodaeth am yr hyn ddigwyddodd i gysylltu â PC 5470 Missen yng ngorsaf yr heddlu ym Mhen-y-Bont gan ddefnyddio cyfeirnod 2000239881.