Elis James: Dwyieithrwydd a fi

  • Cyhoeddwyd
Elliw ac Elis

Am y tro cyntaf eleni, roedd gwobr yn y British Podcast Awards, dolen allanol i'r podlediad Cymraeg gorau, a'r un ddaeth i'r brig oedd, Dwy Iaith, Un Ymennydd gyda Elis James.

Cafodd Cymru Fyw sgwrs ag Elis y llynedd, pan roedd newydd orffen recordio, am ei brofiad o ddwyieithrwydd, ei fagwraeth Gymraeg iawn yn Sir Gâr, a sut beth yw hi i fagu ei blant i siarad Cymraeg yn Llundain.

"Gerddodd e mewn, sgreches i, tynnu'n nicyrs i bant, eu taflu nhw ato fe... Am y pum munud cynta', nes i jest sgrechen, a fe'n iste 'na yn aros i'r sgrechen orffen. O'dd angen golygu'r podlediad yn glyfar iawn..."

Siarad am Gruff Rhys mae Elis James. Mae hi'n anodd gwybod os yw'n dweud y gwir am ei ymateb wrth gwrdd â'i arwr.

Gruff yw un o westeion Elis ar ei bodlediad - Dwy Iaith, Un Ymennydd - ac fel ffan enfawr o'r band Super Furry Animals, roedd Elis wedi cyffroi.

"O'n i wrth fy modd â cherddoriaeth Gymraeg, yn enwedig Gorky's Zygotic Mynci a Super Furry Animals. Nes i ddilyn nhw o gwmpas Prydain - o'n i'n trefnu teithie mini bus i gigs," meddai.

"O'n i'n hoff iawn o fandiau fel Topper a Big Leaves hefyd, ond yn enwedig y Gorky's a'r Furries. Dim achos bo' nhw'n Gymraeg, ond achos mai nhw oedd bandiau gorau'r byd, yn fy marn i."

Dwyieithrwydd ydy pwnc podlediad newydd Elis, ac mae wedi cael y cyfle i drafod agweddau gwahanol ar y pwnc gyda nifer o westeion sydd â phrofiadau amrywiol o ddwyieithrwydd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Elis yn hapus fod o ddim wedi gwneud gormod o ffŵl o'i hun o flaen ei arwr, Gruff Rhys

Fe wahoddodd Gruff i drafod pwysigrwydd dwyieithrwydd iddo ef. Mae wedi ysgrifennu a pherfformio caneuon yn Gymraeg a Saesneg a gwneud enw iddo'i hun ar draws y byd, er mai yn Gymraeg y mae'n fwy cyfforddus yn byw.

Mae Elis hefyd yn trafod y pwnc gyda'r gomedïwraig Esyllt Sears, y DJ Huw Stephens, a'r gohebydd gwleidyddol Elliw Gwawr, ymhlith eraill.

Ond pam dewis y testun yma ar gyfer ei bodlediad Cymraeg cyntaf?

"Os wyt ti wedi symud bant, ti'n dechre meddwl mwy amdano dy iaith a dy hunaniaeth fel Cymro. A hefyd, dwi'n meddwl amdano hwn lot achos dwi'n trio magu plant i siarad Cymraeg yn Llundain.

"Mae'r ferch yn mynd i'r ysgol gynradd, ac mae sawl iaith yn yr ysgol - mae e fel yr United Nations. Yn wahanol i mhrofiad i yng Nghymru, mae hi'n rhannu dosbarth 'da merch sy'n siarad Sbaeneg, bachgen sy'n siarad Pwyleg, rhywun sy'n siarad Arabeg... ac maen nhw'n cyrraedd oedran - tua pump neu chwech - lle maen nhw'n falch iawn o'r ffaith eu bod nhw'n siarad mwy na jest Saesneg."

Doedd dwyieithrwydd, a sefyllfa'r Gymraeg, ddim wir yn rhywbeth roedd Elis yn meddwl amdano pan oedd yn cael ei fagu yn Sir Gâr, gan fod pawb o'i gwmpas yn siarad Cymraeg.

"O'dd lot o Gymraeg 'na. O'dd Mam-gu yn byw yn Cross Hands, ac yn census 1991, o'dd rhywbeth fel 85% yn siarad Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Elis James
Disgrifiad o’r llun,

Elis ifanc gydag un o'i westeion cyntaf - a phwysicaf - Ted

"O'n i'n llythrennol ddim yn 'nabod unrhyw un yno oedd ddim yn siarad Cymraeg. Felly do'n i ddim yn meddwl fod yr iaith o dan fygythiad pan o'n i'n blentyn - o'dd Mam-gu a Tad-cu yn siarad e, Mam a Dad yn siarad e...

"Dwi'n meddwl ma'r tro cynta' nes i feddwl yn rili dwys am y peth oedd pan es i i'r brifysgol a nes i gwrdd â phobl o Gasnewydd o'dd erioed wedi ei glywed ar y stryd. O'n i erioed wedi gorfod meddwl am y peth cyn hynny."

Bellach, mae'n rhywbeth nad yw'n gallu ei osgoi, wrth iddo fagu ei blant mewn byd lle nad ydyn nhw'n clywed llawer o famiaith eu tad.

Yr her o fagu plant i siarad Cymraeg yw prif destun ei sgwrs ag Elliw Gwawr, sydd hefyd yn magu ei mab fel Cymro yn Llundain - rhywbeth sydd yn eithaf anodd, yn ôl Elis.

"Sdim ffrindie 'ma sy'n siarad Cymraeg, felly ma'r ferch ond yn siarad Cymraeg 'da fi neu Mam-gu a Tad-cu neu'n chwiorydd. Ma' fe'n anodd, ond dwi'n gweld pobl yn llwyddo - yn Gymraeg ac mewn ieithoedd eraill hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Elliw ac Elis yn cymharu'r heriau o geisio magu plant yn Llundain i siarad Cymraeg

"Mae Elliw wedi llwyddo, mae ei mab hi'n rhugl. Dyw hi byth yn siarad Saesneg gyda'i mab - ma' fe'n rhwydd iawn i newid i'r Saesneg o flaen y rhieni-yng-nghyfraith. O'n i'n impressed efo'i hagwedd hi."

Caru comedi

Dyma gyfres gyntaf Elis o bodlediadau Cymraeg, ond nid yw'n ddieithr i'r cyfrwng o gwbl, ac wedi bod yn creu podlediadau ers dros bum mlynedd bellach - er mai comedi yw ei gariad cyntaf.

"O'n i 'di tyfu lan yn gwylio comedi Saesneg, ac o'n i jest isie bod yn involved mewn unrhyw ffordd - sgwennu, perfformio... Doedd 'na ddim comedïwyr yn dod o'r gorllewin - heblaw Rhod Gilbert, ond do'dd e ddim yn enwog ar y pryd - a do'n i ddim yn 'nabod neb o'dd yn 'neud comedi.

"O'n i unai mo'yn bod ar y sgrin yn actio mewn sitcom, neu sgwennu sitcom. Ond gradd mewn gwleidyddiaeth a hanes sy' 'da fi a doedd dim syniad 'da fi sut oedd comedi yn gweithio. 'Nath rhywun argymell mod i'n trio stand-yp ac o'dd 'na noson yn Chapter yng Nghaerdydd. Nes i hwnna, a the rest is history."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Elis yn diddannu'r gynulleidfa fyw ac ar y teledu yn y gyfres Stand yp ar S4C

Er mai drwy greu comedi yn Saesneg yr enillodd Elis ei blwy', yn Gymraeg mae'n perfformio stand-yp ar hyn o bryd, ac wrth ei fodd â'r her, yn enwedig wrth i gomedi Cymraeg ffynnu.

"Ma' fe'n deimlad hyfryd i fod yn rhan o rhywbeth newydd, fel y stwff ma' Tudur, Esyllt Sears, Dan Thomas, Sarah Breese, yn ei 'neud, achos ma' S4C yn rhoi gymaint o gefnogaeth," meddai.

"Am y tro cyntaf erioed, mae'r sîn gomedi Gymraeg yn teimlo fel o'dd y sîn roc Gymraeg yn teimlo yng nghanol yr 80au... yng nghyfnod Fideo 9."

"Ond hyd yn oed nawr, gyda'r holl gigs ar gael byddai rhaid i ti 'neud 'chydig o gigs Saesneg fi'n credu. I arbenigo mewn stand-yp, rhaid i ti neud cannoedd, miloedd o gigs, a does dim digon o lefydd yng Nghymru i 'neud 'na - dim digon o drefi na chynulleidfa."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Elis ac Esyllt Sears yn trafod comedi Cymraeg a magu plant sydd ag un rhiant o Loegr

Yn ei gigs y dyddiau yma, mae'n trafod rhywbeth sydd yn agos at ei galon - sef y gwahaniaethau mawr yn y fagwraeth gafodd ef, a'r un mae ei blant yn ei chael yn Llundain. Cafodd Elis blentyndod "debyg iawn i unrhyw un o'dd yn mynd i ysgolion Cymraeg", a'i rieni yr un fath.

Fodd bynnag, mae'n ymwybodol iawn fod ei blant am gael eu codi mewn diwylliant gwahanol iawn yn Llundain.

"Yr ongl sy' 'da fi nawr yw fi'n Gymro sydd wedi cael magwraeth Gymreig dros ben ond sy'n byw yn Lloegr, ac yn trio rhoi magwraeth Cymraeg i'r plant.

"Ma'r gwahaniaeth rhwng magwraeth fy nhad ac un fy merch yn enfawr. O'dd Dad yn fab i löwr yng Nghwm Gwendraeth, lle ma fy merch i'n ferch i rywun sy'n gweithio yn y cyfrynge yn Llundain.

"Ti wastad yn cal y pethe 'ma sy'n gwrthdaro, a dyna lle mae'r hiwmor yn dod!"

Cafodd yr erthygl yma ei chyhoeddi'n wreiddiol ym mis Mai 2015

Hefyd o ddiddordeb: