Llythyr o ddiolch i gyn-filwr, 99, a welodd 'arswyd' bomiau atomig 1945

Duncan Hilling
Disgrifiad o’r llun,

Esboniodd Duncan Hilling fod y golygfeydd yn Hiroshima yn "hollol erchyll"

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-filwr 99 oed o Gymru a fu'n ymladd yn yr Ail Ryfel Byd wedi derbyn llythyr o ddiolch gan Brif Weinidog Cymru, i nodi 80 mlynedd ers buddugoliaeth dros Japan.

Roedd Duncan Hilling o Sir Benfro yn gwasanaethu gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, ac roedd yn un o'r milwyr Prydeinig cyntaf i weld effaith y bomiau atomig a gafodd eu gollwng yn Japan yn 1945.

Disgrifiodd Mr Hilling, sydd o Saundersfoot ger Dinbych-y-pysgod, y dinistr "erchyll" yn Hiroshima a Nagasaki.

Dywedodd Eluned Morgan fod y llythyr yn cydnabod yr "aberth, y cyfraniad a'r gwasanaeth a roddodd Duncan".

Eluned Morgan yn cyflwyno'r llythyr i Duncan Hilling
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n bwysig ein bod yn atgoffa plant heddiw o gost rhyfel a pham ei bod hi'n bwysig gwrando ar dystion fel Duncan" medd Eluned Morgan

Er i'r Almaen ildio ar 7 Mai 1945, parhau wnaeth y rhyfel yn y dwyrain. Daeth y bomio â diwedd i'r rhyfel, gyda Japan yn ildio ar 14 Awst 1945.

Ymunodd Mr Hilling â'r Awyrlu gyntaf ym mis Ebrill 1944, cyn cael ei drosglwyddo i'r Fyddin a gwasanaethu yn India ac yna Japan.

Esboniodd iddynt fynd i Hiroshima, gan weld "arswyd y bom atomig" yno.

"Roedd pobl ddall yn cael eu harwain o gwmpas ac roedd cyrff marw yn dal i orwedd ar y strydoedd. Roedd yn hollol erchyll."

'Pobl hollol ddall a'u croen wedi llosgi'

Hiroshima oedd y tro cyntaf erioed i fom atomig gael ei ddefnyddio mewn rhyfel, a hynny ar 6 Awst 1945, gan awyren Americanaidd.

Er y dinistr ni wnaeth Japan ildio, ac felly gollyngodd yr Americanwyr fom atomig arall, y tro hwn ar ddinas Nagasaki, dridiau'n ddiweddarach.

Bu Mr Hilling yn ymweld â Nagasaki a Hiroshima ar ôl i'r bomiau gael eu gollwng, ac aethant hefyd i ysgolion oedd wedi'u troi'n ysbytai dros dro.

"Gwelsom bobl oedd yn hollol ddall gyda'u dwylo a'u croen wedi llosgi," meddai.

"I mi roedd yn ofnadwy, roedd y papurau newydd yn disgrifio bom atomig, ond nid yw'n disgrifio'r bobl na sut yr oedden nhw'n edrych."

Duncan Hilling yn ifancFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Ymunodd Mr Hilling â'r Awyrlu ym mis Ebrill 1944, cyn cael ei drosglwyddo i'r Fyddin

Y gred ydy bod nifer y marwolaethau o ganlyniad i'r bomiau yn tua 140,000, allan o boblogaeth o 350,000 yn Hiroshima, a bu farw o leiaf 74,000 o bobl yn Nagasaki.

Mi wnaeth yr ymbelydredd niwclear, gafodd ei ryddhau gan y bomiau, achosi i filoedd yn fwy o bobl farw o salwch yn yr wythnosau, misoedd a blynyddoedd oedd i ddilyn.

Collodd Mr Hilling sawl aelod o'i gatrawd flynyddoedd yn ddiweddarach - rhai oedd wedi cymryd eitemau o safleoedd y bomiau er cof.

Ni wnaeth Mr Hilling gadw unrhyw beth, gan ddweud nad oedd sôn ar y pryd bod "ymbelydredd yn broblem".

"Cymerodd dri bachgen o'r gatrawd bethau o'r safle a buont i gyd farw o ganser yn eu 30au a'u 40au."

'Dathlu trwy ganu Cwm Rhondda yn India'

Wedi i Japan ildio, cafodd dau ddiwrnod o wyliau cenedlaethol eu cyhoeddi ar gyfer dathlu yn y DU, yr Unol Daleithiau ac Awstralia.

Cymerodd miliynau o bobl o wledydd y cynghreiriaid ran mewn gorymdeithiau a phartïon ar y strydoedd.

Fe ddathlodd Mr Hilling yn India cyn mynd i Japan, meddai, gan ganu emynau Cymreig yng nghanol y "cynnwrf".

"Fe ganon ni 'Cwm Rhondda'. Roedd yn gyffrous i ddathlu yn y ffordd honno - mae'n rhaid ei fod yn ffordd wahanol i unrhyw gatrawd arall, alla'i ddim meddwl am unrhyw un arall a ddathlodd trwy ganu emynau," ychwanegodd.

Duncan Hilling gyda chriw yn y fyddinFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Cyflwynodd Eluned Morgan y llythyr i Mr Hilling yn ei gartref yn Saundersfoot.

Dywedodd: "Mae'r llythyr yn cydnabod yr aberth, y cyfraniad a'r gwasanaeth a roddodd Duncan, ac mae wrth gwrs yn gynrychiolydd o genhedlaeth gyfan, sydd ddim gyda ni mwyach.

"Dyna pam fod y pen-blwydd hwn yn 80 oed yn arbennig o bwysig, oherwydd dyma'r genhedlaeth fawr olaf lle mae gennym ni bobl gyda ni a gymerodd ran yn yr Ail Ryfel Byd."

"Roedd yn ddiwedd cyfnod anodd iawn, ac roedd yn hyfryd clywed Duncan yn siarad am y llawenydd pan glywsant am ddiwedd y rhyfel."

"Mae'n bwysig ein bod yn atgoffa plant heddiw o gost rhyfel a pham ei bod hi'n bwysig gwrando ar dystion fel Duncan a gwybod pam rydym yn ceisio osgoi'r cyfan."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.