Myfyriwr yn chwilio am enwau Cymraeg i glefydau angheuol
- Cyhoeddwyd

Mae prosiect ymchwil Bedwyr yn cael ei ariannu'n rhannol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae myfyriwr PhD yn gobeithio gadael ei farc yn y maes gwyddoniaeth a'r Gymraeg wrth weithio ar glefydau nad oes modd eu trin ar hyn o bryd.
Mae Bedwyr Ab Ion Thomas yn cynnal ei ymchwil i glefydau angheuol yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ond am nad oes wastad geiriau Cymraeg ar gael, mae hyn yn golygu creu terminoleg newydd o bryd i'w gilydd.
"Mae'n hollol naturiol i mi fod yn astudio ac yn ymchwilio yn fy mamiaith - ond mae yna heriau ychwanegol," meddai Bedwyr, sy'n 23 oed ac o Gaerdydd.
"Mae'r unig derminoleg - neu hyd yn oed jargon - sy'n bodoli ar gyfer rhai o'r meysydd gwyddonol rydw i'n edrych arnyn nhw yn Saesneg neu Ladin felly mae'n rhaid i mi fathu fy ngeiriau fy hun yn Gymraeg.
"Fy nod yw cael geiriadur bach gyda thermau newydd i'w hychwanegu at y Gymraeg erbyn diwedd fy PhD."
Mae Bedwyr yn ceisio datblygu therapïau ar gyfer trin clefydau niwro-ddirywiol trosglwyddadwy, fel Kuru a chlefyd Creutzfeldt-Jakob.
Ar hyn o bryd does dim triniaeth i wella'r rhai sy'n dioddef yr afiechydon yma.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae Bedwyr yn dweud ei fod yn defnyddio "cemeg gyfrifiadurol a synthetig... yn y gobaith y bydd hyn yn arwain at greu therapïau llwyddiannus yn y dyfodol".
Wrth wneud hynny, mae'n gobeithio torri tir newydd yn y Gymraeg.
Angen 'safoni termau gwyddonol'
"Mae agwedd ddiddorol a braidd yn anarferol ar fy ymchwil yn cynnwys bathu geiriau newydd a mireinio termau gwyddonol yn Gymraeg," meddai.
"Er enghraifft, 'poced feindio' mewn protein fydda'r man lle mae'r cyffur yn beindio. Ar hyn o bryd, nid oes cytundeb ynglŷn â pha air ddylai gael ei ddefnyddio'n swyddogol i ddisgrifio hyn yn Gymraeg.
"Rydw i'n defnyddio 'poced feindio', ond mae modd defnyddio nifer o eiriau eraill i gyfleu hyn: twll, safle yn lle poced, neu rwymo, clymu yn lle beindio.
"Y gair Cymraeg am 'residue' ydy 'gwaddod'. Ond yng nghyd-destun biocemegol gall 'residue' olygu rhannau bach o brotein ac ati ac felly fi 'di bod yn defnyddio 'gwaddodolyn' yn fy ngwaith i am y math yna o 'residue'.
"Mae cael popeth yn gyson yn osgoi cymhlethdod hefyd."
Dywedodd Bedwyr wrth Cymru Fyw, pan mae'n dod i "rannu gwybodaeth yn rhyngwladol, Saesneg yw'r iaith" ond mae'n teimlo ei bod hi'n "hollbwysig ein bod ni'n gallu trafod unrhyw astudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg".
"Mae [cysoni termau] yn cyfoethogi safon yr addysg ac yn rhoi rhyddid i bobl allu astudio be bynnag maen nhw eisiau yn y Gymraeg," meddai.

Astudiodd Bedwyr Cemeg ym Mhrifysgol Rhydychen, cyn dechrau ei PhD mewn Cemeg Feddyginiaethol y llynedd
Dywedodd Dr Dylan Phillips, uwch reolwr academaidd yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bod y Coleg yn "credu'n gryf yn yr angen i ddatblygu arbenigedd cyfrwng Cymraeg yn y gwyddorau".
Mae 60 o'r 150 o PhDs gafodd eu noddi gan y Coleg dros y degawd diwethaf wedi bod yn y gwyddorau, meddai.
Roedd Bedwyr yn siarad am ei brofiadau wrth i Brifysgol Caerdydd gynnal diwrnod agored ôl-raddedig rhithwir ar gyfer darpar fyfyrwyr ddydd Mercher.
Bydd Bedwyr yn siarad ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru am 10:15 fore Mercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai 2020
- Cyhoeddwyd10 Medi 2018
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2015