Dedfrydu dyn yn Fietnam am ladd dyn yng Nghymru yn 2006

  • Cyhoeddwyd
Ymddangosiad llys Tu Minh LeFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Tu Minh Le yn sefyll ei brawf mewn llys yn nhalaith Hung Yen ddydd Mawrth

Mae dyn 47 oed o Fietnam wedi cael ei garcharu yn ei famwlad am ladd dyn arall o'r un wlad yng Nghymru 14 mlynedd yn ôl yn dilyn blynyddoedd o gydweithio ar ddau gyfandir.

Bu farw Tran Nguyen, oedd yn 44 oed, yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd yn Nhachwedd 2006, wedi iddo gael gludo yno yn anymwybodol wedi i rywrai ei guro.

Cafodd tri dyn eu carcharu yn 2008 wedi i Lys y Goron Caerdydd eu cael yn euog o ddynladdiad, ond fe wnaeth yr ymchwiliad i'r achos barhau wedi i ddyn arall ffoi'n ôl i Fietnam.

Ddydd Mawrth fe gafodd Tu Minh Le, 47, ddedfryd o 12 mlynedd o garchar ar ôl sefyll ei brawf yn Llys y Bobl Talaith Hung Yen.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd yr achos llys gwreiddiol fod cysylltiad rhwng Tran Nguyen, mewnfudwr anghyfreithlon, â dadl dros ladrad o ffatri ganabis

"Dyma oedd y tro cyntaf i achos gael ei gynnal yn Fietnam am drosedd a gafodd ei chyflawni dramor," meddai'r Ditectif Prif Arolygydd Justin O'Keefe, oedd yn rhan o'r ymchwiliad o'r dechrau.

"Mae wedi cymryd blynyddoedd o gydweithio gyda nifer i awdurdodau ond wnaethon ni 'rioed golli gobaith y bydden nhw'n gweld y canlyniad yma.

"Dyma un o'r ymholiadau mwyaf heriol erioed, yn logistaidd, yn hanes Heddlu Gwent. Am gyfnod maith, doedden ni ddim yn gwybod pwy oedd y dioddefwr na'r amgylchiadau a arweiniodd at ei farwolaeth.

"Mae'r canlyniad yma'n dangos ymroddiad yr holl awdurdodau i gydweithio er mwyn dod â throseddwyr o flaen eu gwell.

"Hoffwn ddiolch i'r Weinyddiaeth Diogelwch Cyhoeddus yn Fietnam am erlyn ar ein rhan, ynghyd â'r Asiantaeth Droseddau Cenedlaethol."

Dywedodd pennaeth yr Asiantaeth Droseddau Cenedlaethol yn rhanbarth Asia Pasiffig, Mark Bishop fod yr achos "yn garreg filltir o ddifrif" oherwydd lefel "ddigynsail" y cydweithio rhwng yr awdurdodau yng Nghymru a Fietnam.

"Mae teulu Tran Nguyen wedi bod trwy brofiad dychrynllyd ac wedi gorfod aros am 14 o flynyddoedd am yr euogfarn yma. Rwy'n gobeithio ei fod yn dod â rhywfaint o gysur iddyn nhw.

"Mae'n dangos ni waeth beth yw'r drosedd neu ble yn y byd y mae'r troseddwyr, gallwn ni eu darganfod a dod â nhw gerbron llys."