Gorfodi rheolau masnach ar Gymru yn 'niweidiol iawn'

  • Cyhoeddwyd
brexit

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio Rhif 10 bod rhaid i'r gwledydd datganoledig roi sêl bendith ar unrhyw reolau masnach newydd ar ôl Brexit.

Daw'r sylwadau wedi i San Steffan gyhoeddi cynlluniau ar gyfer rheolau masnach o fewn y Deyrnas Unedig ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe fyddai'r cynlluniau'n gofyn i bob un o wledydd y DU dderbyn cynnyrch y lleill - beth bynnag bo'u safonau a'u rheolau.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad oedden nhw wedi gweld y cynlluniau ac y byddai unrhyw system a fyddai'n cael ei orfodi ar Gymru yn "niweidiol iawn."

Mae Plaid Cymru yn dweud mai ymgais i danseilio democratiaeth a dwyn grym o Gymru yw'r cynlluniau.

Ond y nod - yn ôl Ysgrifennydd Busnes San Steffan, Alok Sharma - fyddai atal rhwystrau wrth fasnachu nwyddau a gwasanaethau rhwng gwahanol wledydd y DU.

Beth ydy'r cynigion?

O dan gynigion Llywodraeth y DU i'w nodi mewn deddfwriaeth yn ddiweddarach eleni, bydd yr Alban a Chymru yn cael pwerau newydd mewn meysydd gan gynnwys labelu bwyd, cefnogaeth i ffermwyr ac effeithlonrwydd ynni, sy'n cael eu rheoli ar hyn o bryd ar lefel yr UE.

Ond mae San Steffan wedi dweud y bydd yn rhaid i'r gwledydd datganoledig gydnabod rheolau'r pedair gwlad, er mwyn peidio â niweidio masnach yn y DU.

Mewn papur polisi, mae'n dweud y bydd hyn yn sicrhau chwarae teg i bob cwmni waeth pa genedl yn y DU y maen nhw ynddo, er mwyn sicrhau "marchnad fewnol" ledled y DU.

Dywedodd Llywodraeth Cymru, er eu bod yn cefnogi egwyddor masnach di-rwystr, bod yn rhaid i'r cenhedloedd datganoledig gytuno ar unrhyw reolau.

Dywedodd llefarydd: "Rhaid i unrhyw system newydd gael goruchwyliaeth annibynnol a datrys anghydfod.

"Yn anffodus, nid yw Llywodraeth y DU wedi llwyddo i rannu'r papur gyda ni, ac nid yw gweinidogion Cymru wedi cael unrhyw drafodaethau diweddar â Llywodraeth y DU ar y materion hyn.

"Bydd unrhyw ymgais i orfodi system yn unochrog yn niweidiol iawn."

Ond dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, fod Cymru yn "rhan hanfodol" o farchnad sengl y DU a bod 75% o nwyddau Cymru yn cael eu prynu yng ngweddill y DU.