Y cerddor sydd eisiau i chi redeg fel pync

  • Cyhoeddwyd
Jimmy WatkinsFfynhonnell y llun, Jimmy Watkins

Yn 2006, roedd Jimmy Watkins yn un o redwyr cyflymaf y byd, ac yn rhedeg yn rownd derfynol y ras 800m ym Mhencampwriaethau Athletau'r Byd ym Moscow. Erbyn y flwyddyn ganlynol, roedd wedi rhoi'r gorau iddi er mwyn dechrau gyrfa ym myd cerddoriaeth 'punk-rock'.

Ond daeth tro ar fyd ychydig flynyddoedd yn ôl pan benderfynodd ddechrau rhedeg unwaith eto, ac fel mae'n ei egluro, mae nawr yn trio profi fod rhedeg yn rhywbeth gall pawb ei drio... hyd yn oed y pyncs yn ein plith.

Gan mod i o Dreorci, o'n i wastad yn chwarae rygbi. Es i i ysgol Millfield yn Lloegr ar ysgoloriaeth chwaraeon - i fan'no aeth Gareth Edwards, felly mae 'na hanes rygbi cry' yna. Ond yn rhyfedd, dyna pryd nes i ddechrau rhedeg.

Ychydig o flynyddoedd ar ôl gadael yr ysgol, o'n i'n cynrychioli Prydain. O'n i'n rhedeg 800m, a nes i gymryd rhan ym Mhencampwriaethau Ewrop yn 2004 a Phencampwriaethau'r Byd yn 2006.

Ffynhonnell y llun, Jimmy Watkins
Disgrifiad o’r llun,

Jimmy gyda Mo Farrah - roedd y ddau ar dîm Prydain gyda'i gilydd

Ond 'nes i gael digon arno fe. Un o'r rhesymau oedd mod i ddim wedi cael fy newis i dîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad - dwi ddim yn gwybod pam ddim.

Er mod i'n cynrychioli Prydain, ac o'dd hynny'n anhygoel, gan mod i'n Gymro o'n i wedi torri nghalon mod i ddim ar dîm Cymru.

Bywyd roc a rôl

Cerddoriaeth oedd y peth cyntaf nes i syrthio mewn cariad gyda, cyn rygbi a rhedeg. Gan mod i'n athletwr proffesiynol, roedd gen i lot o amser heb ddim i'w wneud, a nes i ddechrau ysgrifennu caneuon. 'Nes i feddwl 'swn i wrth fy modd yn trio gwneud i hynny weithio.

O edrych nôl, ddyliwn i fod wedi gwneud y ddau - 'sa hynny wedi bod yn ddelfrydol. Ond o'n i'n 25 oed, ac o'n i'n teimlo ei fod yn gorfod bod yn un neu'r llall. O'n i wedi cael digon ar y rhedeg ac eisiau trio rhywbeth hollol wahanol.

'Nes i stopio hyfforddi yn gyfan gwbl, a thaflu'n hun mewn i'r bywyd roc a rôl.

Ffynhonnell y llun, Jacqui Sadler

'Nes i ymuno gyda'r band Future of the Left, yn chwarae'r gitâr. Enillon ni'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig, aethon ni ar lawer o deithiau, i America, Awstralia, Ewrop, perfformio yng Ngŵyl Reading and Leeds... 'nes i lawer o bethau gwych gyda'r band.

Oedd e'n hwyl am 'chydig o flynyddoedd, ond mae e'n dal lan 'da ti, a ddechreues i deimlo'n rubbish ac yn afiach.

'Nes i adael yn 2015. Dwi'n chwarae mewn band gyda ffrindiau ysgol nawr sydd lot mwy laid-back. Dal yn punk-rock, ond 'dyw e ddim mor o ddifri' â' band arall... mae e fel côr meibion i pyncs!

'Angen gwneud rhywbeth'

Ond o'n i dal i ar slippery slope, o'n i'n yfed gormod. Cawson ni'n mab, a mae pobl yn dweud ar ôl iddyn nhw gael plant eu bod nhw'n callio, ond nes i ddim. O'n i dal i fynd mas, a wedyn yn trio edrych ar ôl bachgen bach gyda hangover...

O'n i mewn lle tywyll, yn feddyliol. O'n i'n teimlo fel ei fod e rhy hwyr i mi newid dim, ac yn difaru mod i wedi 'gwastraffu' fy amser yn y band; beth bynnag ydi'r cyfnod 'na rhwng dy ieuenctid a phan ti 'di mynd yn rhy hen. O'n i angen gwneud rhywbeth.

Yna 'nath rhywun anfon fideo ohona i'n rhedeg ym Mhencampwriaethau'r Byd ata i. Do'n i erioed wedi ei weld e.

Doedd fy ngwraig i ddim yn 'nabod fi bryd hynny, ac roedd shot ohona i cyn y ras yn gwenu a chodi llaw, a ddywedodd hi "dwi'n 'nabod y person yna - mae e dal yno ti". 'Nes i sylweddoli mod i wedi colli'r fersiwn yna o fy hun.

Ffynhonnell y llun, Jimmy Watkins
Disgrifiad o’r llun,

Jimmy yn cynrychioli Prydain ym Mhencampwriaethau'r Byd yn 2006

Ac ar ôl hynny, o'dd e'n hawdd. Ar 1 Ionawr 2019, nes i jest dechrau rhedeg, a mae e wedi newid fy mywyd yn gyfan gwbl.

Roedd y ffaith mod i'n arfer bod yn rhedwr wedi ei gwneud hi'n haws i mi ddechrau, achos o'n i'n gwybod sut i'w 'neud e; prynu pâr o trainers ac amdani.

Ond aeth e'n anoddach, achos o'n i'n cymharu fy hun o hyd â'r adeg pan o'n i'n un o'r bobl gyflymaf yn y byd. A nawr o'n i'n 15 stôn, yn 35 oed ac yn rhedeg rownd Llanelli. Roedd rhaid i mi anghofio beth o'n i'n ei wybod mewn ffordd.

'Nes i golli pump stôn mewn blwyddyn, a dydw i ddim yn yfed o gwbl ddim mwy.

Mae e wedi gwella'n iechyd meddwl i 100%. O'n i'r math o berson oedd yn cael peaks uchel a lows anferth, ond dwi'n gallu meddwl yn glir nawr. Dwi'n teimlo fel person newydd.

Rhedeg fel pync

Mae Running Punks yn gymuned ar-lein 'nes i sefydlu ym mis Tachwedd 2019 gyda hen ffrind, Rhodri Morgan, oedd mewn sefyllfa debyg; o'dd e hefyd mewn band a ddim yn teimlo fod hynny'n helpu 'da'i iechyd.

'Nes i sylwi fod pethau rhedeg wedi cael eu hanelu tuag at y bobl anghywir; y bobl sydd siŵr o fod yn rhedeg yn barod, neu yn ystyried gwneud.

Be' 'dyn ni'n ei 'neud yw trio cael y bobl sydd ei angen e i ddechrau rhedeg, ond sy' siŵr o fod byth wedi hyd yn oed meddwl am y peth - y bobl sydd ddim yn meddwl eu bod nhw'n ticio'r bocs o fod yn rhedwr.

Dwi'n meddwl fod llawer o bobl yn teimlo'r pwysau i ymuno â chlwb rhedeg a chael yr holl cit a phopeth gynta', ond be' 'ni'n ei ddweud ydi y galli di redeg fel pync. Dwi'n rhedeg mewn crysau t cotwm a sannau o siop rad.

Be' 'dyn ni'n ei bwysleisio yw os ti'n dechrau rhedeg, 'nei di ddechrau gweithio mas be' sy'n gweithio i ti. Does 'na ddim pwynt prynu'r holl cit cyn i ti ddechrau, neu hyd yn oed byth ddechrau. Well i ti fynd amdani, sylweddoli fod y crys t cotwm yn rhoi nipples poenus i ti, ac yna prynu top rhedeg call...!

Ffynhonnell y llun, Jimmy Watkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae Running Punks yn gymuned ar-lein sy'n ceisio annog unrhywun i redeg

Dwi'n gwneud fideos yn adolygu cerddoriaeth wrth redeg, ac mae hynny'n gwneud i'r bobl fyddai fel arfer jest yn eistedd adref yn gwrando ar y gerddoriaeth sylweddoli y gallan nhw fynd mas a gwrando ar y gerddoriaeth 'na.

'Nes i adolygiad o albym rhyw fand, a 'naeth y band ei ail-drydar, a'r diwrnod wedyn o'n i'n cael negeseuon gan bobl yn America oedd newydd fod i redeg am y tro cynta' ar ôl gwylio'r fideo yna. Hollol wallgo'!

Maen nhw'n newid eu bywydau ac yn cael hwyl wrth wneud.

Pan 'naethon ni ddechrau, doedden ni ddim wir yn gwybod beth oedden ni'n ei wneud. Ond dwi'n edrych ar fideos proffesiynol a mae popeth mor ddifrifol, yn trafod heart-rate zones, pa trainers i'w prynu... Mae e'n gwthio pobl i ffwrdd. Ni jest mo'yn unrhyw un i ymuno mewn.

Dwi'n caru helpu pobl. Pan o'n i angen help, doedd yna neb wir o gwmpas, a neb wir yn deall y broblem oedd gen i. Doedd neb yn gwybod beth oedd yr ateb.

Mae'n siŵr fod yna gymaint o bobl yn anhapus, a ddim yn sylweddoli mai rhywbeth all helpu yw gwneud bach o ymarfer corff. Mynd am jog, a chadw i fynd.

Hefyd o ddiddordeb: