Galw ar brofion gwrthgyrff Covid-19 i fod ar gael i fwy o bobl

  • Cyhoeddwyd
Ellen ap Gwyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ellen ap Gwynn "bron yn siŵr" iddi hi ddal Covid-19 ym mis Ionawr

Mae arweinydd Cyngor Ceredigion wedi galw ar brofion gwrthgyrff Covid-19 i fod ar gael i fwy o bobl yng Nghymru.

Daw hyn wedi i waith ymchwil gan raglen Newyddion ddangos i 342 o farwolaethau gael eu cofrestru yn y sir yn ystod 17 wythnos gyntaf eleni.

Mae'r ffigwr yna 22% yn uwch na chyfartaledd marwolaethau Ceredigion dros yr un cyfnod yn y pum mlynedd ddiwethaf.

Mae Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake, wedi galw am gael "edrych yn fanylach" ar y rheswm dros y cynnydd yn nifer y marwolaethau yn y sir.

Ar hyn o bryd yng Nghymru, dim ond i staff ysgolion, gweithwyr yn y sector gofal ac iechyd a phreswylwyr mewn cartrefi gofal mae'r prawf gwrthgyrff ar gael.

Mae'r prawf yn dangos os ydy rhywun wedi cael eu heintio gyda coronafeirws o'r blaen.

Mae arweinydd y cyngor sir, Ellen ap Gwynn "bron yn siŵr" iddi hi ddal Covid-19 ym mis Ionawr.

"O'n i'n ame'n hun falle fod Covid wedi bod yng Ngheredigion yn gynharach achos mi fues i fy hun yn sâl ym mis Ionawr gyda'r un math o symptomau'n union," meddai.

"Mi fyddai yn ddiddorol iawn i mi gael prawf gwrthgyrff i weld os yr wyf yn iawn yn beth fi'n meddwl.

"Byddwn i'n hoffi gweld fod y profion gwrthgyrff ar gael i fwy o bobl.

"Dwi wedi darllen bod nhw wedi darganfod yn Ffrainc, er enghraifft, bod e wedi bodoli ym mis Rhagfyr mae'n debyg draw yn fan'na, ond bod pobl ddim wedi ei adnabod o fel Covid bryd hynny.

"Mi fydda fe'n ddiddorol o ran lledaeniad y clefyd i ni allu cael gwell darlun o faint o'r boblogaeth sydd wedi dioddef."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Nel Phillips ym mis Ionawr

Fe gollodd Marilyn Jones ei mam yng nghyfraith, Nel Phillips, o haint ar yr ysgyfaint ym mis Ionawr.

Mae Marilyn hefyd yn amau bod Covid-19 wedi cyrraedd Ceredigion cyn dechrau'r pandemig, ac mae am weld profion gwrthgyrff ar gael i ragor o bobl.

"Mi ddechreuodd y salwch ar ddechrau Ionawr. Roedd hi'n mygu gyda'r peswch a dyna orffennodd hi - y chest infection. Ond ro'dd y doctor yn dweud bod yr ysgyfaint yn glir," meddai.

"O'dd hi'n ofnadwy gweld hi'n stryglan am anadl. Wedyn colli hi yn fy mreichiau. O'dd e'n ofnadwy. Yn dorcalonnus.

"Mi gollon ni Nel ym mis Ionawr. Yna ym mis Chwefror ges i'r salwch. Yn wahanol i'r salwch gaeaf fel arfer pan 'ych chi'n cymryd moddion yna mae'n clirio ond doedd dim clirio ar y salwch hwn.

"Roedd gen i brinder anadl, poenau ofnadwy, gwres wrth gwrs ac aros yn y gwely am dri diwrnod. Synnwn i ddim os mai'r Covid oedd e gan ei fod mor wahanol i'r arfer."

'Mwy o amrywiad wrth edrych ar un sir'

Yn ôl Dr Phil Kloer o Fwrdd Iechyd Hywel Dda maen nhw'n edrych ar y "manylion tu ôl i'r data" marwolaethau ond nad ydyn nhw wedi sylwi ar "unrhyw beth anarferol hyd yma".

"Mae'r data marwolaethau'n amrywio o fis i fis a blwyddyn i flwyddyn, a gall yr amrywiad fod yn fwy wrth ddefnyddio data un sir," meddai.

"Mae pob marwolaeth mewn ysbyty yn cael ei hadolygu'n rheolaidd ar gyfer unrhyw gyfleoedd dysgu wrth i ni barhau i ymdrechu i wella gofal diwedd oes a'n cyfathrebu â theuluoedd ar yr adeg anodd honno."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y profion gwrthgyrff yn cael eu defnyddio i ddeall hanes yr haint ymysg grwpiau penodol, sef staff ysgolion, gweithwyr iechyd a gofal a thrigolion cartrefi gofal.

"Fodd bynnag, fe all ac fe ddylai unrhyw un sydd â symptomau Covid-19 gael eu profi yn un o'r nifer o ganolfannau profi a sefydlwyd o amgylch Cymru neu drwy becyn profi cartref," meddai.