Pryder gall y cyfnod clo ysgogi 'ton' o dor-perthynas

  • Cyhoeddwyd
Dyn a dynes yn dadlauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyfnod clo wedi dwysau problemau oedd eisoes yn bodoli o fewn rhai perthnasau

Mae cwnselwyr perthynas yn rhagweld nifer fawr o geisiadau am eu cymorth ar ddiwedd y cyfnod clo ar raddfa debyg i'r galw arferol wedi gwyliau'r Nadolig.

Yn ôl Steph James, sy'n cefnogi cyplau yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, mae'n bosib y bydd "ton" o berthynas a phriodasau'n chwalu wedi i bobl orfod treulio amser gyda'i gilydd cyhyd dan amgylchiadau mor heriol.

Mewn arolwg o 2,000 o bobl ar draws y DU ym mis Ebrill, dywedodd 23% wrth elusen Relate Cymru fod eu perthynas dan straen oherwydd y cyfyngiadau.

Mae'r elusen yn erfyn ar bobl i ofyn am help i atal problemau rhag gwaethygu.

Straen

O'r bobl yng Nghymru a gyfrannodd i'r arolwg, dywedodd 29% fod y cyfnod clo'n cynyddu'r pwysau ar eu perthynas.

Roedd 20% yn amheus ynghylch sefydlogrwydd eu perthynas, o'i gymharu â 12% ar draws y DU.

"Fe allwn ni weld cynnydd mawr [mewn galwadau] fel sy'n digwydd wedi'r Nadolig," meddai Ms James. "Mae cyplau wedi'u taflu â'i gilydd mewn sefyllfa lawn straen, fel nawr.

"Ni all lawer adael ac fe allai'r holl broblemau ddod i'r wyneb yn ystod y cyfnod clo.

"Mae pobl yn ymdrechu i ddod drwyddi... ond wrth inni ddychwelyd i normalrwydd o fath, mae perthnasau'n chwalu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dychwelodd Lauren - nid ei henw iawn - i Gaerdydd am wyliau cyn y cyfnod clo.

Roedd hi a'i chymar o bedair blynedd newydd gael eu rhoi ar y cynllun ffyrlo o'u swyddi yn Lloegr.

Ond yn y dyddiau a'r wythnosau wedi i'r cyfyngiadau ddod i rym, daeth y cwpl i'r casgliad, wedi cyfnod o fyfyrio ac ar delerau cyfeillgar, bod y berthynas ar ben.

"Fe wnaeth i mi sylweddoli fod bywyd gwahanol yn bosib heb fod mewn perthynas," meddai.

"Dydw i ddim yn meddwl y byddwn wedi gwneud hynny oni bai am y cyfnod clo. Mae'n gam i'r cyfeiriad cywir i'r ddau ohonom."

Ond mae'n cydnabod fod colli incwm oherwydd y pandemig, a cheisio am Gredyd Cynhwysol ar y cyd wedi ychwanegu'r straen ar y berthynas.

"Roedd ceisio mynd i'r afael â'r ochr ariannol, tra'n cyfrannu at y rhent a'r biliau, a minnau ddim yn hapus, mewn gwirionedd, o fewn y berthynas, yn bwysau enfawr."

Heriau i bobl yn y byd amaeth

Mae sesiynau ar-lein trwy Zoom wedi bod o fudd i rai cyplau fynd i'r afael â phroblemau, meddai Ms James, sy'n cynnig gwasanaeth o ardal Aberteifi.

Ond mae'r cyfnod clo "wedi chwyddo problemau oedd yno eisoes... yn arbennig yn achos cyplau'r byd amaeth," meddai.

"Mae rhedeg fferm eisoes yn anodd ac ar ben hynny mae angen ceisio rhoi addysg i'r plant gartref.

"Roedd gyda chi dywydd bendigedig, y plant eisiau mynd allan, llawer o ardaloedd gwledig yn teimlo'n ynysig, y rheol pum milltir a dim gofal plant."

Ychwanegodd nad yw'r cartref wastad yn le diogel yn achos pobl sy'n ymdopi ag unrhyw fath o gamdriniaeth o fewn perthynas, ac mae "cynnydd anferthol" mewn achosion ers dechrau'r cyfnod clo.

Ffynhonnell y llun, PeteSherrard/Thinkstock

Dywed elusen Refuge fod 25% yn fwy o alwadau wedi'u derbyn yn ymwneud â thrais yn y cartref ers dechrau'r argyfwng Covid-19.

Yn ôl Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly, mae'n "anochel" y bydd mwy o achosion yn dod i'r amlwg pan ddaw'r cyfyngiadau i ben nag sydd wedi eu cofnodi hyd yma.

Dyw'r cwnsela arferol, ble mae cyplau'n trafod eu sefyllfa'n unigol, yn amhosib os yw'r ddau dan yr un to, ac mae angen i ymgynghorwyr flaenoriaethu osgoi cynyddu'r risg i'r sawl sy'n fregus.

Yn fwy cadarnhaol, medd Ms James, mae defnyddio apiau fideo a ffôn wedi helpu rhai oresgyn "tabŵ" ceisio am gymorth, o allu cynnal sesiynau o'r cartref.

Mae'r cyfyngiadau hefyd wedi creu gofod i rai ganolbwyntio ar eu perthynas, ailglosio, neu roi'u problemau mewn cyd-destun gwahanol yn sgil y pandemig. Mae mwy o gyplau hefyd yn gofyn am gwnsela eto, wedi gostyngiad ar ddechrau'r cyfyngiadau.

Hefyd mae nifer o berthnasau oedd yn gymharol newydd nôl ym mis Mawrth wedi datblygu'n gyflymach na'r arfer wrth i bobl fyw gyda'i gilydd ddydd a nos mewn cyfnod mor "ddigynsail".

"Amser a ddengys" a fydd rheiny'n goroesi dan amgylchiadau mwy arferol, medd Ms James.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

bydd elusen Relate yn cynnig help i gyplau yn ystod yr Wythnos Perthnasau gyntaf rhwng 20 a 26 Gorffennaf

Mae rheolwr Relate Cymru, Val Tinkler yn annog pobl i ofyn am help cyn i broblemau waethygu nes bod dim troi'n ôl.

Mae'r cyfnod presennol, meddai, fel gwyliau'r Nadolig yn achosi i broblemau ddod i'r wyneb wrth i bobl dreulio mwy o amser nag arfer gyda'i gilydd.

"Ychwanegwch at hynny'r cyfnod estynedig nawr o hunan-ynysu, pryderon ynghylch swyddi, arian, cydbwyso gwaith a gofal plant, ac ansicrwydd am y dyfodol," meddai.

"Mae'n glir pam rydym yn rhagweld perthnasau yn y fantol."