'Gwyrth' achub plentyn o bwll rhaeadr yn Llanberis
- Cyhoeddwyd
Mae'n "wyrthiol" fod merch chwech oed ond wedi cael mân anafiadau ar ôl llithro a disgyn dros raeadr yng Ngwynedd, yn ôl aelod o'r tîm achub a ymatebodd i'r alwad frys.
Syrthiodd y ferch, oedd yn ymweld â'r ardal gyda'i theulu, i bwll uwchben rhaeadr Ceunant Mawr yn Llanberis brynhawn Sul a chael ei thaflu dros yr ochr gan y cerrynt.
Mae'r rhaeadr ym Mharc Cenedlaethol Eryri tua 100 troedfedd (30m) o uchder,
Cafodd ei hachub o'r pwll ar waelod y rhaeadr, gan yr hyn y mae Tîm Achub Mynydd Llanberis yn ei alw yn "Samariad trugarog lleol", cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd.
Cafodd y plentyn driniaeth yn y fan a'r lle, ac yn ôl llefarydd y tîm achub roedd hi'n ymwybodol ac yn effro cyn cael ei throsglwyddo i ofal parafeddygon, a'i chludo maes o law i Ysbyty Gwynedd, Bangor
Ychwanegodd fod aelod o'r tîm yn yr ardal pan glywodd "lawer o weiddi a chynnwrf", ac fe gafodd cyd-aelodau eu dargyfeirio'n syth o achos arall yn ardal Yr Wyddfa.
Tir a chreigiau llithrig
"A'th nifer o aelodau'n syth i Ceunant Mawr, achos dan ni'n ymwybodol o beryglon Ceunant Mawr a thrychinebau sydd wedi bod," meddai is-gadeirydd Tîm Achub Mynydd Llanberis, Barry Davies wrth raglen Post Cyntaf.
"Mi o'dd 'na deulu uwchben y ceunant, wedi mynd i dynnu llunia. Wrth gwrs, mae 'di bwrw gymaint dros yr wythnosa' dwytha, ma'r tir yn llithrig, ma'r creigia'n llithrig ac wrth gwrs mae'n bosib bod y teulu a'r ferch ifanc yma wedi mynd braidd rhy agos i'r ochor.
"Dydyn nhw ddim yn gerrig sydd yn hawdd i gerdded arnyn nhw, ac yn anffodus mi lithrodd hi drwodd ac i lawr dros yr ochor i'r dŵr. Bosib bod hi 'di trafeilio mor gyflym drw'r dŵr bod hi 'di mynd o dan y current peryg... a'i golchi allan i geg y pwll, lle gafodd ei hachub gan un o'r nifer o bobol oedd yna yn tynnu llunia.
"O'n i'n siarad efo nifer o'r tystion ac oeddan nhw wedi dychryn mwy na'r plentyn bychan. Mi na'th na un allu mynd i mewn i'r dŵr i helpu hi allan ac a'th 'na ddau arall i mewn.
"Felly er bod ni 'di ymweld â'r pwll ar yr amser yna ac yn sydyn ofnadwy, oedd 'na ddim gofyn i ni gynorthwyo... dim ond trio tawelu meddwl y tystion o'dd di bod yn helpu...
"Hynod o ffodus"
"Mi oedd y ferch fach ifanc yn hynod o ffodus i ddod allan o hyn heb unrhyw anafiadau... Gwyrthiol, i ddeud y gwir, wrth feddwl yr uchder mae 'di disgyn. Mae 'di bod o dan y dŵr, mae 'di ga'l 'i gwthio drw'r pwll ac allan y pen arall.
"Dwi ddim yn y maes seicolegol o gwbwl ond pwy a ŵyr, gobeithio fydd hi'n gallu roid y peth yn cefn y meddwl a bod y gwarchodwyr efo hi'n gallu roid hyn i gefn eu meddwl hefyd.
"Dwi'n meddwl mae'n bosib bod rhai na'th weld y digwyddiad yn ca'l eu heffeithio falle mwy na'r person, pwy a ŵyr. Mae o'n effeithio dipyn ar yr unigolion pan maen nhw'n gweld hyn yn digwydd.
Mewn neges ar Facebook, dywedodd y tîm achub: "Er ei fod yn brydferth, mae rhaeadr Llanberis wedi bod yn lleoliad sawl marwolaeth a damwain agos iawn.
"Roedd y digwyddiad hwn yn ddamwain wirioneddol. Mae'r pethau hyn yn digwydd yn achlysurol ac nid oes bai ar neb.
"Wedi dweud hynny, rydyn ni'n parhau i gynghori pobl i beidio nofio yn y pyllau o dan y rhaeadrau."
Dywedodd Barry Davies: "Mae'n dangos pa mor beryglus ydi'n cefn gwlad ni a pha mor wyliadwrus 'dan ni isio bod pan 'dan ni'n mynd allan i gefn gwlad, yn enwedig i lefydd uchal.
"'Dan ni'n ymwybodol bod pobol leol ac ymwelwyr yn gallu mynd i drafferthion mewn llefydd fel hyn - ma' pawb yn gweld y sefyllfa brydferth sydd o amgylch ond yn anghofio hefyd y peryglon sydd o dan ein traed ni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2015
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2015