Datgelu cynlluniau am safle cronfa ddadleuol Llanisien
- Cyhoeddwyd
Yn dyddio nôl i oes Fictoria, roedd cronfa ddŵr Llanisien yng ngogledd Caerdydd yn destun ffrae gynllunio am flynyddoedd.
Erbyn hyn, mae 'na gynllun gan Dŵr Cymru i adnewyddu'r gronfa a chreu canolfan chwaraeon dŵr a safle i ymwelwyr.
Ers y 1970au, roedd y llyn yn fwrlwm o weithgarwch gydag ysgol hwylio a chlwb pysgota.
Ond yn 2004, cafodd y gronfa ei chau ac yn fuan wedyn, daeth y cyntaf o sawl cais cynllunio i adeiladu dros 320 o dai ar y safle.
Bu ymgyrch fawr yn erbyn y datblygu, a cafodd y newyddion yn 2016 bod Dŵr Cymru wedi sicrhau lles i'r safle am y 999 o flynyddoedd nesaf ei groesawu gan ymgyrchwyr.
Erbyn hyn, mae gan y cwmni gynlluniau i droi'r gronfa yn ganolfan gymunedol unwaith eto.
Maen nhw'n gobeithio adeiladu hwb i ymwelwyr yma, sy'n cynnwys caffi, canolfan hwylio a phadl-fyrddio, ardaloedd cadwraeth a lle i gynnal dosbarth awyr agored i ysgolion.
"O'r cychwyn cyntaf, fel cwmni roedden ni'n ymwybodol iawn o'r sensitifrwydd roedd 'na am y safle a'r brwydro oedd wedi digwydd yn y gorffennol i achub y safle," meddai Gwyn Thomas o Dŵr Cymru.
"Fe wnaethon ni weithio yn agos iawn gyda'r grŵp oedd wedi brwydro i achub y cronfeydd ac yn ystod y broses wedyn o ddatblygu ein cynlluniau ni, wedi gweithio gyda nhw.
"Un o'r pethau ddaeth ar draws yn glir iawn, oedd yr awydd i weld hwylio yn cael ei gynnal yma eto.
"Mae (hwylio) wedi chwarae rhan bwysig iawn yn yr ardal yma, nifer o bobl wedi dysgu hwylio cyn bod y gwersi hwylio yn symud lawr i'r bae."
Er mwyn gwneud gwaith atgyweirio bu'n rhaid i Dŵr Cymru wagio'r gronfa, ac ers dros flwyddyn wedi bod yn ei hail-lenwi drwy ddefnyddio dŵr glaw a nentydd lleol.
Bydd y cynlluniau yn mynd drwy gyfnod o ymgynghori dros y mis nesaf ac mae disgwyl agor y safle newydd erbyn haf 2022.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2016