Bwriad i bawb allu cael cymhwyster Cymraeg o fewn 5 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
David Jones
Disgrifiad o’r llun,

David Jones: 'Ymrwymiad i ddatblygu mwy o gyrsiau yn y Gymraeg yn flaenoriaeth mawr'

Mae Cymwysterau Cymru yn dweud eu bod nhw'n gobeithio sicrhau y bydd unrhyw un yn gallu cael cymhwyster drwy gyfrwng y Gymraeg o fewn pum mlynedd.

Mae'r corff sy'n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau yng Nghymru wedi cyhoeddi strategaeth newydd Dewis i Bawb, i gynyddu argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg.

Ar y Post Cyntaf fore dydd Iau, dywedodd y cadeirydd, David Jones fod gan Cymwysterau Cymru rôl bwysig i'w chwarae er mwyn sicrhau bod cyfleoedd ar gael, "yn enwedig yn y meysydd yna lle 'dyn ni'n gwybod bod galw am fwy o bobl i gael sgiliau iaith Gymraeg".

Dywedodd Mr Jones ei fod yn ffyddiog y bydd digon o athrawon, darlithwyr a thiwtoriaid cyfrwng Cymraeg ar gael i ateb y galw.

'Man cychwyn am welliant mawr'

"Mae lot o waith wedi digwydd dros y blynyddoedd diwetha' trwy Lywodraeth Cymru ac eraill i wella a chynyddu faint o athrawon sy'n gallu dysgu drwy'r Gymraeg, felly dwi ddim yn gweld bod hwnna'n anhawster mawr," meddai.

"Beth ydyn ni'n trio gwneud yw rhoi'r eglurder yna i bawb - mewn gwlad eitha' bach ond gwlad gryf sy'n gallu gwneud llawer mwy drwy gydweithio gyda'n gilydd, dy' ni'n credu y gallwn ni gyflawni hyn.

"Dim datblygu hwn mewn vacuum ydyn ni wedi ei wneud - 'dyn ni wedi datblygu'r strategaethau yma drwy gydweithio gydag ysgolion, colegau, llywodraeth, y comisiynydd ac eraill, yn enwedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, felly 'dyn ni'n hyderus iawn y bydd y strategaeth yma'n fan cychwyn am welliant mawr o fewn y dewis dros y pum mlynedd nesa."

Mae Dewis i Bawb yn nodi pedwar maes ffocws strategol:

  1. Blaenoriaethu bod cymwysterau ar gael yn Gymraeg mewn addysg amser llawn, lleoliadau ôl-16, a phrentisiaethau;

  2. Cryfhau'r gefnogaeth i gyrff dyfarnu a'u gallu i ddarparu cymwysterau cyfrwng Cymraeg;

  3. Diwygio Grant Cymorth i'r Gymraeg Cymwysterau Cymru i gyd-fynd â'r strategaeth newydd, i ganolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth, cymwysterau newydd a chymwysiadau arloesol;

  4. Gwella gwybodaeth i ddysgwyr, eu hysgolion a'u colegau, a data at ddibenion rheoleiddio.

"Mae hwn yn rhywbeth mae Cymwysterau Cymru wedi bod yn gweithio arno ers rhyw flwyddyn," meddai David Jones.

"Mae ymrwymiad y corff i ddatblygu mwy o gyrsiau yn y Gymraeg yn flaenoriaeth mawr i ni.

"Heddiw 'dyn ni'n lansio'r strategaeth newydd 'ma, a mae hwn yn rhan fawr o'n rôl ni fel un o brif chwaraewyr yn y maes addysg yng Nghymru i gydweithio efo eraill er mwyn sicrhau bod mwy o gyrsiau ar gael reit ar draws y sector addysg i gefnogi datblygiad Cymru yn y dyfodol hir."

Newid mawr i'r cwricwlwm

Cafodd Cymwysterau Cymru ei sefydlu yn 2015 yn dilyn adolygiad gafodd ei gynnal yn 2012 o gymwysterau plant a phobl ifanc rhwng 14 ac 19 oed.

Un o brif argymhellion yr adolygiad hwnnw oedd sefydlu arolygydd cymwysterau annibynnol i ymateb i anghenion penodol Cymru.

Ar hyn o bryd mae un o'r newidiadau mwyaf mewn degawdau i'r cwricwlwm ysgol yng Nghymru ar fin digwydd, wrth i gwricwlwm newydd ar gyfer plant tair i 16 oed gael ei gyflwyno.

Bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei ddysgu o 2022 ymlaen a bydd chwech "maes o ddysgu a phrofiad" yn dod yn lle'r pynciau traddodiadol.