'Tlodi'n fwy o fygythiad na Covid-19 i Geredigion'
- Cyhoeddwyd
Mae'r economi a'r effaith ar dlodi yn fwy o fygythiad i Geredigion na Covid-19, yn ôl Pencampwr Tlodi'r awdurdod lleol.
Fe ddaw'r rhybudd wrth i'r Pwyllgor Materion Cymreig rybuddio mai'r tlotaf sy'n mynd i ddioddef fwyaf o ganlyniad i'r pandemig.
Ers mis Mawrth mae banciau bwyd Cyngor Ceredigion wedi gweld cynnydd mawr yn eu defnydd.
Mae ffigyrau hefyd yn dangos bod tlodi plant wedi cynyddu 3.1% yng Ngheredigion yn y pedair blynedd hyd at fis Mai - cyn i'r pandemig daro.
Yn yr un cyfnod fe welodd Cymru ar y cyfan ostyngiad bach.
Yn ôl Cyngor Ceredigion, mae "miloedd o bobl" wedi cael mynediad at wasanaethau dros y cyfnod clo.
'Gwir broblem'
Bu'n rhaid i fanc bwyd Llandysul recriwtio tîm newydd cyfan o wirfoddolwyr ym mis Mawrth oherwydd bod cymaint o aelodau wedi gorfod aros adref.
Ers hynny, mae'r banc bwyd wedi gweld cynnydd o 150% mewn pecynnau bwyd sy'n cael eu dosbarthu.
Yn ôl y Parchedig Gareth Reed, sy'n rhedeg y banc bwyd, mae tlodi yn Llandysul yn broblem "annisgwyl ond real iawn".
"Mae effaith y cyfnod clo i'w deimlo yn ddwfn ac yn fawr yma - ac mae'n mynd i bara," meddai.
"Mae canran uchel o deuluoedd yn cael prydau am ddim trwy'r ysgol, gan fod y plant wedi bod adref mae'r pwysau ariannol yn enfawr.
"Beth ni'n trio gwneud yw gofyn y cwestiynau a cheisio cael atebion a helpu pobl i gamu ymlaen, allan o dlodi.
"Dydy banciau bwyd ddim yn mynd i wneud hynny ond gobeithio ei fod yn help bach mewn symud i'r cyfeiriad cywir."
Ffigyrau Banciau Bwyd Ceredigion
Llandysul - cynnydd o 150%
Aberystwyth - cynnydd o 37%
Llambed - cynnydd o 300%+
Aberteifi - cynnydd o 50%
Mae ffigyrau hefyd yn dangos cynnydd o 3.1% mewn tlodi plant yng Ngheredigion, tra bod y ffigyrau ar gyfer Cymru gyfan wedi gostwng 0.2%.
Cafodd y ffigyrau hyn eu cyhoeddi ym mis Mai eleni ar gyfer 2014/15 - 2018/19. Ceredigion sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf o bob sir yng Nghymru yn ystod y cyfnod dan sylw.
Yn ôl y darlithydd mewn Polisi Cymdeithasol, Dr Hefin Gwilym o Brifysgol Bangor, mae'n edrych yn "dywyll iawn".
"Dwi'n bryderus iawn am yr hirdymor. Rydym ni'n mynd i weld cynnydd mawr mewn tlodi a thlodi plant yng Nghymru, gyda thoriadau mawr mewn budd-daliadau," meddai.
"Dwi'n hollol argyhoeddedig y bydd polisïau llymder yn ôl yn gryfach nag erioed.
"Mae'r sefyllfa'n bendant o waethygu am y 10 mlynedd nesaf, falle'r 20 mlynedd nesaf hyd yn oed. I'r bobl dlotaf, mae'r dyfodol yn edrych yn dywyll iawn.
"Mae 'na broblem yng Nghymru oherwydd 'da ni ddim wedi datblygu polisïau effeithiol i ddatrys problem tlodi, yn rhannol oherwydd does gyda Chymru ddim y grym llawn i wneud hynny."
Pencampwr Tlodi
Bwriad Cyngor Ceredigion yw datblygu Strategaeth Mynd i'r Afael â Chaledi er mwyn helpu gyda'r risg cynyddol i ddinasyddion y sir.
Dywedodd Pencampwr Tlodi Cyngor Ceredigion, y Cynghorydd Catrin Miles: "Mae swyddogion wedi bod yn cefnogi miloedd o bobl trwy ein Porth Cymorth Cynnar a cheisio pwyntio pobl i'r cyfeiriad iawn.
"Dyn ni wedi llwyddo i gadw ffigyrau cleifion coronafeirws yn isel iawn, felly'r broblem i ni yw adfywio ac adfer yr economi.
"Mae'r strategaeth newydd yn canolbwyntio ar bob agwedd o'n bywydau ni ac mae'r economi yn chware rhan bwysicach yn ein strategaeth nag erioed o'r blaen."
Felly ydy effaith coronafeirws ar galedi, ar dlodi, ac ar yr economi yn fwy o fygythiad yng Ngheredigion na'r elfen iechyd ei hun?
Dywedodd y Cynghorydd Miles bod hynny'n wir.
"Ni wedi cadw y ffigyrau o ran achosion yn isel iawn, fel chi'n gwybod, ac mae system olrhain dda iawn yn y sir," meddai.
"Y broblem i ni yw adfywio, ac adfer yr economi oherwydd bod honno yn dibynnu gymaint ar y busnesau oedd wedi gorfod cau lawr yn ystod y clo.
"Dyna pam, gydag ein strategaeth newydd, mae'r elfen economi yn bwysig iawn."
'Dangos gwir faint yr her'
Mae grŵp trawsbleidiol o Aelodau Seneddol yn rhybuddio mai'r trigolion tlotaf fydd yn dioddef fwyaf.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, Stephen Crabb AS: "Mae'r pandemig wedi delio ergyd enbyd i deuluoedd a busnesau ledled Cymru, gyda'r baich yn cwympo fwyaf ar gymunedau oedd eisoes yn agored i niwed cyn yr argyfwng.
"Mae ein hadroddiad yn dangos gwir faint yr her economaidd sy'n wynebu ein cenedl.
"Mae diwydiannau allweddol yn wynebu storm berffaith ac mae gwir beryg y bydd diweithdra yn dychwelyd i lefelau na welwyd tebyg iddynt ers degawdau.
"Mae angen adferiad cynaliadwy ar Gymru er mwyn arwain at economi gryfach a mwy gwydn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd16 Mai 2020