Tîm o swyddogion i groesawu ymwelwyr yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Cynghorydd Paul Miller gydag aelodau o’r tîm croeso ar draeth Dinbych-y-PysgodFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Y cynghorydd Paul Miller gydag aelodau o'r tîm croeso ar draeth Dinbych-y-Pysgod

Mae tîm newydd o swyddogion wedi cael ei sefydlu i groesawu ymwelwyr i rai o ardaloedd mwyaf poblogaidd Sir Benfro.

Mae'r swyddogion ar gael i roi gwybodaeth ynglŷn â lleoliad toiledau cyhoeddus, meysydd parcio a diogelwch yn y dŵr.

Maen nhw hefyd yn rhoi cyngor i ymwelwyr am ymbellhau cymdeithasol ac am leoliadau ac atyniadau yn y sir.

Ers wythnos bellach mae'r tîm wedi bod yn gweithio yn Nhyddewi, Solfach, Niwgwl, Aberllydan, Saundersfoot a Dinbych-y-pysgod.

O ddydd Mercher ymlaen mi fyddan nhw hefyd ar gael i helpu ymwelwyr yn Nhrefdraeth ac ar draeth Poppit.

Annog gwyliau yng Nghymru

Mae'r fenter wedi ei chefnogi gan y cyngor sir, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r sector twristiaeth.

"Mae twristiaeth yn rhan allweddol o economi Sir Benfro," meddai'r cynghorydd Paul Miller, aelod y cabinet ar gyfer yr economi, twristiaeth, hamdden a diwylliant.

"Gyda rhyw 20% o'r boblogaeth yn cael eu cyflogi ym maes twristiaeth, mae'n hanfodol ein bod ni'n cefnogi ailagor y sir yn ddiogel i dwristiaid."

Swyddogion Croeso yn gweithio yn SaundersfootFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Swyddogion Croeso yn cynorthwyo ymwelwyr yn Saundersfoot

Mae rheolau newydd sydd bellach wedi dod i rym yn golygu y bydd yn rhaid i bobl sydd ar eu gwyliau yn Sbaen hunan ynysu am 14 diwrnod ar ôl cyrraedd adref.

Mae'n gyfle felly yn ôl Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans MS, i bobl achub ar y cyfle i dreulio'u gwyliau yng Nghymru.

Dywedodd y bydd hi yn bersonol yn mynd ar ei gwyliau yng Nghymru yn yr haf, gan annog eraill i wneud yr un peth.

"Byddwn yn llwyr yn argymell i bobl aros yng Nghymru gan wneud y gorau o'r hyn sydd gennym i gynnig, yn enwedig o gofio pa mor anodd yw hi ar y diwydiant ymwelwyr a lletygarwch," meddai.

"Felly rwy'n meddwl ei bod yn gyfle gwych i gefnogi'r busnesau lleol ffantastig yma, a'u helpu drwy amseroedd anodd."