'Gafodd Hari ddod adre o'r diwedd - amser hir a caled'

  • Cyhoeddwyd
Hari'n gadael Alder HeyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Hari'n gadael Alder Hey

Mae bachgen pedair oed o Gaernarfon wedi dychwelyd adref yn dilyn cyfnod o 14 mis mewn ysbyty plant yn Lerpwl.

Cafodd Hari ei eni gyda'r cyflwr myo-tubular myopathy - sy'n golygu bod angen cyflenwad ocsigen arno i allu anadlu am weddill ei oes.

Mae ar beiriant cynnal bywyd ac mae ei gyflwr yn un prin - gyda dim ond 17 achos yn y DU.

Mae Hari wedi treulio rhan fwyaf o'i fywyd yn Ysbyty Alder Hey ond yn gynharach yr wythnos hon fe gafodd ffarwel arbennig gan y staff a Heddlu Glannau Mersi, cyn i Heddlu Gogledd Cymru a fflyd o geir Ford Escorts Mark 1 ei hebrwng adre i ogledd Cymru.

'Wrth ei fodd'

Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf fore dydd Gwener, dywedodd tad Hari, Michael Jones: "Gafodd Hari ddod adra o'r diwedd. Mae o wedi bod yma y tro yma am 14 mis - amser hir ac amser caled.

"Gafodd o guard of honour yn Alder Hey yn dod allan o'r main entrance. Mi roedd o wrth ei fodd - roedd pawb yn wafio a goleuadau glas mawr a police officers.

"Maen nhw'n deud mai fo ydi'r unig un i gael guard of honour heblaw am y Queen medda nhw."

Disgrifiad,

''Dan ni 'di bod drwy lot yn y ddwy flynedd ddwytha'

Fe dreuliodd gymaint o amser yn yr ysbyty yn Lerpwl fel ei fod bellach wedi colli llawer o'i Gymraeg.

"Mae o'n gwrando ar y Gymraeg, mae o'n deall y Gymraeg, ond mae Saesneg y Scouser yn dod drwyddo fo, felly mae'n ateb yn Saesneg," meddai ei dad.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Hari a'i chwaer

Ychwanegodd fod Hari wedi dod yn adnabyddus yn y ddinas wedi iddo dreulio cymaint o'i fywyd ifanc yn yr ysbyty yno.

"Yn Lerpwl cyn y lockdown roedd 'na lot o events yn digwydd ac roedd Hari 'chydig bach yn famous a dweud y gwir yn Alder Hey - pawb yn ei nabod o, pawb yn wafio a dweud helo.

"A dwi'n meddwl fod pawb wedi sylweddoli bob tro bydda fo'n gwisgo i fyny fe fyddai'n gwisgo mewn dillad fel fireman neu blismon.

"Ddaru un o'r sarjants ddod i fy ngweld i un diwrnod - dwi'n meddwl mai Pasg oedd hi - oedd nyrs wedi dweud wrtho fod 'na hogyn yn patrolio'r ward... a gafodd o'i wneud yn honoroary police officer, neu 'V.I.C' maen nhw'n ei alw fo - 'very important child'.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Hari 'V.I.C.'

Ychwanegodd Mr Jones fod y pandemig coronafeirws wedi amlygu'r pwysigrwydd o gael Hari adref unwaith eto: "Roedd o fod i ddod adre July diwethaf ond achos does ganddo ni ddim tŷ sydd wedi cael ei addasu ddigon i Hari - mae ganddo gadair olwyn drydan a'r machines i gyd, efo dwy nyrs 24/7.

"Roeddan ni'n disgwyl i'r tŷ gael ei fildio - nath y Covid stopio hynna, ond o achos y Covid hefyd roeddan nhw'n meddwl ei fod yn bwysig iawn ei gael o o'r sefyllfa yna, ond yn anffodus ddaru bob dim fynd ychydig bach yn wrong, a doeddan nhw methu cael ni adra mor sydyn, felly roedd o'n gorfod isolatio yn yr ysbyty mewn un ystafell - neb yn cael mynd ato fo - mam a dad bob yn ail.

"'Da ni wedi llwyddo i wneud stafell wely dros dro iddo fo yn yr ystafell fyw, ond yn anffodus dydi o ddim yn gallu mynd i mewn na allan o'r tŷ.

"Ond 'da ni'n gwneud iddo fo weithio - mae'n braf ei gael o adra."