'Peidiwch oedi cyn mynd i weld meddyg' medd mam
- Cyhoeddwyd

Brychan gyda'i fam, Ffion Clwyd Edwards
"Peidiwch ag oedi rhag mynd a'ch plentyn i'r ysbyty, roedden ni'n teimlo'n gwbl ddiogel yno," - dyna gri Ffion Clwyd Edwards, mam o Ddyffryn Clwyd wedi iddi hi a'i mab 15 oed dreulio pum niwrnod yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.
Roedd Brychan wedi cael ei anfon i'r ysbyty ar ôl i orff oedd ar ei fys droi'n heintus.
Mae'r orff yn afiechyd cyffredin mewn defaid ac ŵyn sy'n effeithio ar gegau'r anifeiliaid a caiff ei basio'n rhwydd i ffermwyr wrth fugeilio.
Mae'r orff yn afiechyd cyffredin mewn defaid a caiff ei basio'n rhwydd i ffermwyr
Roedd Brychan wedi bod yn gofalu am fwydo ŵyn llywaeth ar y fferm yn Nhywysog, Henllan, Sir Conwy ers i'r pandemig daro, ac mi drosglwyddodd yr haint i'w fys a throdd y briw yn boenus.
"Cawsom ni ofal arbennig gan y Gwasanaeth Iechyd," meddai Ffion, a oedd wedi cysylltu yn gyntaf â'r feddygfa leol yn Ninbych ac anfon lluniau o'r briw.

Dechreuodd y peth fel briw ar fys Brychan
Yna mi roddwyd gwrthfiotig i Brychan. Mewn llai na 24 awr, fodd bynnag, roedd cyflwr dwylo Brychan wedi gwaethygu, ac mi roedd yna frech goch wedi ymddangos ar ei ddwylo a dros ei gorff.
"Er ei bod hi'n Ŵyl y Banc VE Day, agorodd ein meddyg y feddygfa oherwydd y pryder ac fe anfonwyd ni'n syth i Ysbyty Glan Clwyd."
Wrth i gyflwr Brychan waethygu, gwres mawr yn ei ddwylo, a'r frech yn datblygu ar ei ddwylo, penelinoedd, pengliniau a'i draed, datblygu hefyd wnaeth y cosi difrifol.
"Chysgodd o ddim am 96 awr oherwydd ei fod mor anghyfforddus," meddai Ffion.
"Ro'n i'n tylino ei ddwylo a'i freichiau bob awr drwy'r nos gydag eli i geisio lleddfu rhywfaint arno ac yn newid paciau oer o'r rhewgell yn yr ysbyty a'i gosod ar ei ddwylo i dynnu'r gwres o'r dwylo poenus.
"Roedd yn teimlo fel petai Brychan wedi llosgi ei ddwylo mewn tân."

Yn fuan roedd brech ar law Brychan a ymledodd i rannau eraill o'i gorff
Doedd y tîm meddygol ddim yn siŵr iawn beth oedd y cyflwr ar y pryd. Er bod orff yn gyffredin mewn cymunedau gwledig, doedd neb yn ward y plant erioed wedi ei weld na'i sgîl-effeithiau mewn plentyn.
Bu meddygon mewn cyswllt ag Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl a Chlefydau Trofannol Ysbyty Brenhinol Lerpwl am gyngor.
Yn ychwanegol i hyn oll, ar y pryd roedd brech ar y corff mewn 100 o blant ym Mhrydain sydd wedi profi'n bositif i Covid-19.
O ganlyniad, anfonwyd Brychan i'r Ward Coch (Covid-19) y Plant yn yr Ysbyty (mae Ward Gwyrdd di-Govid-19 yn Adran y Plant a Ward Coch, Covid-19). Daeth y prawf nôl fel un negyddol.
Gan nad oedd dermatolegydd ymgynghorol ar alw dros benwythnos na gŵyl y banc yng ngogledd Cymru, wedi'r penwythnos hir y cafwyd datrysiad i gyflwr Brychan ag yntau'n parhau i ddioddef yn ei wely.
Wedi trafod â'r ymgynghorydd plant, penderfynodd y ddwy i dynnu'r drip gwrthfiotig a'r drip gwrth histamin oddi ar Brychan, a gwelwyd gwelliant yn ei gyflwr o fewn ychydig oriau.
Bum diwrnod wedi i Brychan gyrraedd adref nôl i fuarth y fferm, roedd yn helpu ei frawd mawr gneifio ei ddiadell o ddefaid pur Llŷn.
"Diolch byth bod y gwasanaeth iechyd ar gael i ni, a bod doctoriaid a nyrsys arbennig yn gweithio ar ein rhan, hyd yn oed mewn pandemig fel hyn.
"Roedd cael siaradwyr Cymraeg wrth erchwyn y gwely yn gysur mawr i ni, ein dau, mewn cyfnod pryderus."


Ategu'r neges wnaeth Dr Markus Hesseling, cyfarwyddwr pediatreg gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Dywedodd: "Er ei bod yn bwysig dilyn cyngor y llywodraeth i aros adre yn y cyfnod hwn, mae'n gallu achosi dryswch am beth i wneud os yw eich plentyn yn sâl.
"Cofiwch fod Galw Iechyd Cymru ar 111, meddygon teulu ac ysbytai yn dal i ddarparu'r un gofal ag y maen nhw wastad wedi gwneud.
"Y neges dwi am i bobl ei ddeall yw ein bod ni'n agored ac yn cynnig gofal o safon uchel i bob plentyn neu berson ifanc, boed hynny os oes ganddyn nhw symptomau sy'n awgrymu Covid-19 neu beidio.
"Fy neges i rieni felly yw - os ydych chi'n pryderu am eich plentyn, peidio oedi cyn cysylltu a chael rhywun i weld eich plentyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2020
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2020