Dwy ffrind ysgol yn cwrdd am y tro cyntaf ers 70 mlynedd
- Cyhoeddwyd
"Ddydd Mawrth diwethaf oedd un o ddyddiau mwya' speshal fy mywyd," meddai Ann Daniels o Langyndeyrn, a "dwi innau mor falch i fi allu dod o hyd i fy ffrind ysgol," oedd geiriau Gloria Thomas o bentre Rhos ger Llangeler yn Sir Gaerfyrddin.
Tan yr wythnos hon, doedd Gloria ac Ann heb weld ei gilydd ers bron i 70 mlynedd - er bod y naill wedi meddwl am y llall droeon gan eu bod yn ffrindiau gorau yn yr Ysgol Uwchradd i Ferched yng Nghaerfyrddin.
"Digwydd ffindio llyfr llofnodion wnes i ac un o'r rhai oedd wedi ysgrifennu yn y llyfr oedd Ann a thua'r un pryd gwelais ar y teledu bod hi a'i gŵr yn dathlu 59 mlynedd o fywyd priodasol ac yna aeth yr ysfa i gael gafael yn Ann yn fwy," meddai Gloria.
"Wel dwi ddim ar y we a doedd fawr o syniad 'da fi shwt i fynd ati - Ann Smith o'dd hi yn yr ysgol ond o'n i'n gwybod bod hi'n briod ag adeiladwr â'r cyfenw Daniels o Langyndeyrn.
"Do'dd dim amdani felly ond edrych mewn hen phone directory a des o hyd i rywun â'r cyfenw Daniels yn byw mewn tŷ oedd yn gyfuniad o'r cyfenw yna ac enw Ann - a dyma fentro ffonio a chredwch neu beidio Ann na'th ateb.
'Sioc neis'
"Gath hi sioc ofnadw' - ond sioc neis. Yn rhyfedd iawn roedd Ann a'i gŵr wedi symud sawl gwaith ond drwy lwc i fi wedi mynd ag enw'r tŷ a'r rhif ffôn gyda nhw i bob cartref newydd.
"Ers yr alwad gynta 'na ry'n wedi bod yn siarad â'n gilydd bwti bod bob dydd ar y ffôn a gan ei fod yn braf yr wythnos hon, dyma wahodd hi a'i gŵr yma am de tu fas - wel do'dd Ann ddim wedi dieithrio dim, fydden i wedi 'nabod hi'n strêt petawn wedi ei gweld ar y stryd yng Nghaerfyrddin."
Ychwanegodd Gloria: "Dyna beth oedd pnawn i'w gofio - stopon ni ddim siarad wrth fynd dros yr hen hanes.
"Ni ddim yn byw yn bell - dim ond ryw 20 milltir go dda sydd rhyngom ni ond ro'n ni wedi colli cysylltiad a'r ddwy ohonom wedi aros yn ein milltir sgwâr."
'Lot o siarad!'
"Do ges i'r sioc ryfeddaf pan ges i'r alwad ffôn," meddai Ann.
"Ro'n i'n ffrindiau gorau yn y Diocesan High School for Girls ond oddi ar i ni adael yr ysgol pan o'n i'n 15 oed dy'n ni ddim wedi gweld ein gilydd o gwbl a'r un ohonom yn gwybod dim o hanes y llall.
"Ie pawb wedi mynd ffordd ei hunan. Fues i'n window dresser am sbel yng Nghaerfyrddin ac yna priodi. Fuodd Gloria yn glyfar iawn i ddod o hyd i fi."
"Ro'dd gweld ein gilydd ddydd Mawrth diwethaf yn ddigwyddiad speshal iawn yn y cyfnod clo. Ro'n i wedi meddwl sefyll awr yn nhŷ Gloria ond fe fuon ni 'na am bedair awr - ro'dd cymaint 'da ni 'weud wrth ein gilydd ar ôl bron i 70 mlynedd.
"Mynd dros yr hen hanes fuon ni fwya' a gathon ni lot o sbri - yn gwmws fel o'n ni. Dyw Gloria chwaith ddim wedi altro dim - gwallt ni'n dwy wedi gwynnu ond ar wahân i hynny dim wedi newid.
"O'dd e'n brynhawn arbennig iawn a 'wi mor ddiolchgar. Y cam nesaf nawr fydd cael Gloria yn ôl i tŷ ni ond bydd rhaid aros tan bod y feirws 'ma drosodd - mi 'nathon ni lynu at y rheolau yn nghartref Gloria a chael te tu fas."
"Rwy' wedi bod yn ddigon unig yn y cyfnod 'ma," ychwanegodd Gloria, "ond mae cwrdd ag Ann eto wedi dod â bywyd newydd i fi. Dyna lwc bo' fi wedi dod o hyd i'r llyfr llofnodion!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd12 Mai 2017