Anrhydeddau Gorsedd y Beirdd: Y de a'r canolbarth

  • Cyhoeddwyd
Robat Gruffudd, Elin Haf Gruffydd Jones a'r Arglwydd Thomas o GwmgïeddFfynhonnell y llun, Amrywiol
Disgrifiad o’r llun,

Robat Gruffudd, Elin Haf Gruffydd Jones a'r Arglwydd Thomas o Gwmgïedd

Mae Gorsedd y Beirdd wedi cyhoeddi rhestr o'r unigolion fydd yn cael eu hanrhydeddu yn Eisteddfod Genedlaethol 2021 yn Nhregaron.

Cafodd yr eisteddfod ei gohirio am flwyddyn oherwydd argyfwng coronafeirws.

Dyma'r rhai o dde a chanolbarth Cymru fydd yn cael eu hurddo bryd hynny.

Gwisg Werdd

Deian Creunant: Aberystwyth, wedi cyfrannu at y celfyddydau yn lleol ac yn genedlaethol. Yn un o'r lleisiau Cymraeg cyntaf ar Radio Ceredigion, cafodd gyfnodau yn gweithio gyda'r Urdd, y Gronfa Loteri Fawr a Llywodraeth Cymru, a bellach mae'n gyfarwyddwr cyfathrebu gyda FOUR Cymru. Mae'n is-gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, yn cyd-arwain menter Ffoto Aber a bu'n gadeirydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Ngheredigion yn 2010. Mae'n aelod ac yn gyn gadeirydd o Fwrdd Rheoli ac Ymddiriedolwyr Cwmni Theatr Arad Goch, yn aelod o Fwrdd Rheoli Canolfan Morlan, ac yn flaenor yng nghapel y Morfa. Dros y blynyddoedd mae wedi rhedeg i godi arian i elusennau lleol a chenedlaethol.

Angharad Fychan: Mae Angharad Fychan, Pen-bont Rhydybeddau, Aberystwyth, wedi cyfrannu'n helaeth i faes enwau lleoedd. Er 2011, bu'n ysgrifennydd cydwybodol ac egnïol Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, gan ddarlithio'n gyson ar y pwnc. Mae'n arwain teithiau cerdded addysgiadol er mwyn egluro pwysigrwydd enwau lleoedd yn y tirwedd, ac mae'n paratoi colofn enwau lleoedd yn fisol ar gyfer papur bro Y Tincer er 2013. Mae hefyd yn aelod o dîm safoni enwau lleoedd Comisiynydd y Gymraeg. Gwnaeth gyfraniad mawr hefyd yn ei gwaith fel Golygydd Hŷn ar staff Geiriadur Prifysgol Cymru, ac mae graen a brwdfrydedd yn nodweddu ei gwaith bob amser.

Robat Gruffudd: Anrhydeddir Robat Gruffudd, Tal-y-bont, Ceredigion, am ei gyfraniad i iaith a diwylliant Cymru. Dechreuodd ymgyrchu pan oedd yn fyfyriwr ym Mangor, ac yn 1965, gyda'i ffrind, Penri Jones, cyhoeddodd y rhifyn cyntaf o'r cylchgrawn dychanol, Lol. Yn 1967, sefydlodd wasg Y Lolfa, un o brif weisg Cymru erbyn heddiw. Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen ddwywaith, a chyhoeddi cyfrol o gerddi, A Gymri di Gymru?, yn 2008, a'i ddyddiaduron, Lolian, yn 2016. Roedd yn un o'r tîm a sefydlodd y papur bro, Papur Pawb, ac mae'n parhau'n weithgar yn ei gymuned.

Elin Haf Gruffydd Jones: Mae Elin Haf Gruffydd Jones, Aberystwyth, wedi gweithio am dros 30 mlynedd mewn rhwydweithiau a phrosiectau sy'n cysylltu Cymru a'r Gymraeg gyda chyfandir Ewrop, gan fanteisio ar ei phrofiad rhyngwladol i gyfoethogi'r drafodaeth am y Gymraeg. Yn 2017, fe'i penodwyd yn aelod o grŵp Cyngor Ewrop sy'n adolygu'r Siarter Ewropeaidd ar gyfer ieithoedd lleiafrifol a rhanbarthol. Datblygodd Ganolfan Mercator a sicrhau trwy Gyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau i gannoedd o lyfrau o Gymru gael eu cyfieithu i ieithoedd y byd. Mae'n Athro ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn aelod o Fwrdd Rheoli'r Eisteddfod Genedlaethol ac yn Gadeirydd Cwmni Theatr Arad Goch.

Anthony Evans: Yn wreiddiol o Crosshands, mae'r artist Anthony Evans wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Mae'n gyn bennaeth celf Ysgol Glantaf, yn ddarlunydd llyfrau plant, ac yn arlunydd gwleidyddol a gefnogodd ymgyrch streic y glowyr a'r mudiad gwrth-apartheid. Bu'n weithgar dros Glwb y Bont, yn ysgrifennydd Sir i UCAC, ac un o sylfaenwyr Cwmni Artistiaid yr Hen Lyfrgell, Oriel Canfas ac Elusen Awen. Mae'n artist proffesiynol ers 30 o flynyddoedd. Mae wedi perfformio gyda Chwmni Drama Y Fuwch Goch, Clwb Ifor Bach, a Chwmni Drama Capel y Crwys, yn ogystal ag ymddangos mewn dau bantomeim yn yr Eglwys Newydd i godi arian i'r Eisteddfod Genedlaethol.

Jeffrey Howard: Mae'r cerddor Jeffrey Howard, Caerdydd, yn enw ac wyneb cyfarwydd i fynychwyr yr Eisteddfod, fel un o gyfeilyddion swyddogol yr Ŵyl ers dros ugain mlynedd. Yn organydd dawnus a chyfarwyddwr cerdd, yn ogystal â hyfforddwr lleisiol profiadol, mae wedi gweithio gyda sefydliadau cerddrorol blaenaf Cymru, gan gynnwys Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru. Derbyniodd Wobr Joseph Parry am ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru yn 2018. Mae wedi dysgu'r Gymraeg, ac wedi'i defnyddio'n rheolaidd wrth weithio ar brosiectau corawl yr Eisteddfod, yn gymunedol ac wrth baratoi am berfformiadau ar lwyfan y Pafiliwn.

Carlo Rizzi: Yn wreiddiol o Milan, mae Carlo Rizzi, Penarth, yn arweinydd opera adnabyddus dros y byd. Bu'n gyfarwyddwr cerdd Opera Cenedlaethol Cymru rhwng 1992 a 2001 ac eto rhwng 2004 a 2008, ac mae'n dychwelyd at y cwmni'n rheolaidd i weithio. Mae'n fwyaf enwog am ei waith athrylithgar yn dehongli ac arwain operâu Verdi, ac fe'i cydnabyddir yn un o arweinyddion gorau'r byd yn y maes hwn. Mae galw mawr am gael cydweithio â Carlo Rizzi, gyda'i egni deinamig, ei ddealltwriaeth naturiol o gerddoriaeth a'i allu i ymgysylltu â'r gerddorfa a'r gynulleidfa mewn ffordd gwbl enigmatig ac emosiynol. Mae wedi dysgu Cymraeg ac yn magu'i blant drwy gyfrwng yr iaith.

Delwyn Siôn: Yn wreiddiol o Aberdâr, Delwyn Siôn, Caerdydd, yw cyfansoddwr caneuon hudolus fel 'Un Seren' a 'Niwl ar Fryniau Dyfed', clasuron sydd yr un mor boblogaidd nawr ag erioed. Yn ogystal â'i gyfraniad i'n diwylliant, fe'i hanrhydeddir am ei waith gydag elusen Bobath, yn dilyn genedigaeth ei fab. Bu'n rhan o sefydlu yma yng Nghymru gangen o'r elusen, sy'n gweithio i wella ansawdd bywyd plant sydd â pharlys yr ymennydd a chyflyrau niwrolegol cysylltiedig. Erbyn hyn, mae canolfan therapi arbenigol yng Nghaerdydd, a dros y blynyddoedd mae Delwyn wedi codi llawer o arian i'w chefnogi. Mae'n weithgar yn lleol ac ef yw'r arweinydd yng Nghapel Bethlehem, Gwaelod-y-Garth.

Gwisg Las

Jeff Davies: Mae Jeff Davies, Y Fenni, wedi bod yn rhan bwysig o fywyd Cymraeg y fro honno ers blynyddoedd, ac fe fu hefyd yn allweddol yn llwyddiant yr Eisteddfod yn Sir Fynwy yn 2016, Blaenau Gwent yn 2010 a Chasnewydd yn 2004. Yn dilyn Eisteddfod Casnewydd 1988, roedd Jeff yn un o'r criw a frwydrodd i sicrhau bod ysgol gynradd Gymraeg yn agor yn Y Fenni, a phan agorodd yr ysgol ei drysau yn 1994, roedd Jeff yn un o'r llywodraethwyr cyntaf. Mae ganddo ddiddordeb byw mewn byd natur, ac mae'n arwain teithiau cerdded i adnabod bywyd gwyllt yn y Gymraeg ac mae hefyd yn arbenigwr ar hanes lleol ei ardal.

John Milwyn Jarman: Anrhydeddir Y Barnwr John Milwyn Jarman, Penarth, am ei gyfraniad i fyd y gyfraith. Yn wreiddiol o ardal Y Drenewydd, gwasanaethodd fel bargyfreithiwr o 1980 tan 2007. Daeth yn drysorydd y gylchdaith ac yn bennaeth siambr adnabyddus, 9 Plas y Parc, Caerdydd. Fe'i penodwyd yn Gofiadur Llys y Goron yn 2000 ac yn Gwnsler y Frenhines yn 2001. Mae'n farnwr ers 2007, ac mae'n un o farnwyr mwyaf blaenllaw Cymru. Dysgodd y Gymraeg yn rhugl, ac mae'n cynnal achosion yn y Gymraeg, gan gryfhau Cymreictod ein cyfraith a'n llysoedd a dod â chyfiawnder yn nes at bobl Cymru.

Glyn Powell: Mae Glyn Powell, Pontsenni, yn ysgolhaig, awdur, athro, amaethwr, arweinydd a chofnodwr hanes ei bobl. Treuliodd ei yrfa ym myd addysg, ac ymgyrchodd dros addysg Gymraeg mewn ardal a oedd yn dalcen caled, gan lwyddo i ennill cefnogaeth y gymuned yn ei chyfanrwydd ac adennill parch tuag at yr iaith yn lleol. Cyfrannodd yn helaeth i fyd amaeth, gan gynnwys fel arweinydd yr ymgyrch dros Epynt yn ystod cyfnod heriol clwy'r traed a'r genau, a phan oedd Cwm Senni dan fygythiad i'w foddi. Mae'i gyfraniad yn lleol a chenedlaethol wedi bod yn arbennig am flynyddoedd lawer, a braint yw ei anrhydeddu eleni.

John Thomas: Anrhydeddir John Thomas, Yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd yng Nghwm Tawe am ei gyfraniad i'r Gymraeg drwy'r system gyfiawnder. Bu'n Farnwr Uchel Lys ac yn Farnwr Llywyddol Cylchdaith Cymru cyn ei ddyrchafu i'r Llys Apêl, ac yn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr. Dyfarnodd mewn nifer o achosion yn ymwneud â chyfansoddiad Cymru, gan bwysleisio pwysigrwydd Senedd Cymru fel llais democrataidd pobl Cymru. Drwy'i waith yn cadeirio'r Comisiwn am Gyfiawnder yng Nghymru, gwnaeth argymhellion pellgyrhaeddol er lles pobl ein gwlad, gan gynnwys datganoli cyfrifoldeb dros faes cyfiawnder i Senedd Cymru, ac argymhellion cadarn am y Gymraeg ym maes y gyfraith a gweinyddu cyfiawnder.

Arfon Hughes: Mae Arfon Hughes, Dinas Mawddwy, yn ysgrifennydd Cwmni Nod Glas, a chyda cefnogaeth y tîm wedi sicrhau grantiau niferus i'r ardal er mwyn prynu Hen Siop yng nghanol y pentref, a'i throi'n gaffi crefft llwyddiannus a fflatiau ar gyfer pobl leol. Llwyddwyd hefyd i ddenu arian gan y Llywodraeth i uwchraddio llwybrau ardal Mawddwy, gan sicrhau mynediad hygyrch i bawb, ymysg nifer o brosiectau eraill. Sefydlodd noson Y Fari Lwyd yn yr ardal ugain mlynedd yn ôl, ac mae'n trefnu'r Plygain yn lleol ers degawd a mwy. Mae'n un o sefydlwyr papur bro cylch Dolgellau, Llygad y Dydd. Dyma ddyn sydd yn galon i'w gymuned ac yn haeddu'i anrhydeddu gan yr Orsedd.

Siôn Jobbins: Mae cyfraniad Siôn Jobbins, Aberystwyth, i Gymru dros y blynyddoedd diwethaf yn enfawr. Fe'i ganed yn Zambia, ond symudodd y teulu i Gaerdydd pan oedd yn faban. Ers ei gyfnod yn fyfriwr yn Aberystwyth, mae Siôn wedi ymgyrchu'n frwd dros y Gymraeg ac annibyniaeth i Gymru. Sefydlodd Ras yr Iaith yn 2014, ymgyrch sy'n mynd â'r iaith drwy gymunedau Cymru bob dwy flynedd, gan gasglu arian wrth deithio, ac ef yw sylfaenydd Parêd Gŵyl Ddewi Aberystwyth. Mae'n gadeirydd 'Yes Cymru' yn gyd-drefnydd y gorymdeithiau llwyddiannus dros annibyniaeth, a bu'n un o arweinwyr y cais i ennill parth dotCYMRU (.cymru) ar y we. Yn awdur a golygydd toreithiog, fe'i hanrhydeddir am ei gyfraniad blaenllaw i ddyfodol Cymru.