Anrhydeddau Gorsedd y Beirdd: Y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae Gorsedd y Beirdd wedi cyhoeddi rhestr o'r unigolion fydd yn cael eu hanrhydeddu yn Eisteddfod Genedlaethol 2021 yn Nhregaron.
Cafodd yr eisteddfod ei gohirio am flwyddyn oherwydd argyfwng coronafeirws.
Dyma'r rhai o'r gogledd fydd yn cael eu hurddo bryd hynny.
Gwisg Las (nid oes neb o'r ardal yn cael eu hurddo â'r Wisg Werdd y tro hwn).
Cledwyn Ashford: Yn ddi-os, byddai Cledwyn Ashford, Cefn-y-bedd, Wrecsam, yn haeddu'i le yn yr Orsedd am ei gyfraniad i fyd pêl-droed yng Nghymru am dros ddeugain mlynedd. Mae wedi gweithio gyda rhai o sêr mwyaf y byd pêl droed, gan eu mentora pan yn ifanc a chadw llygad agos ar eu datblygiad dros y blynyddoedd. Ond mae 'Cled' yn fwyaf adnabyddus i ni fel aelod hanfodol o'r tîm sy'n rhedeg Maes yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos. Yn barod ei gymwynas bob tro, Cled yw un o arwyr tawel y Brifwyl, ac fe'i hanrhydeddir eleni am ei gyfraniad hynod i'r Eisteddfod dros gyfnod o flynyddoedd lawer.
Ruth Hussey: Ymddeolodd Dr Ruth Hussey, Lerpwl, o'i swydd fel Prif Swyddog Meddygol Cymru yn 2016. Yn ystod ei chyfnod yn y swydd honno, bu'n gyfrifol am ddelio â'r epidemig mwyaf o'r frech goch yn ne Cymru ers i'r rhaglen brechu gychwyn. Er ei bod wedi 'ymddeol', mae galw am ei phrofiad a'i gwasanaeth o hyd yng Nghymru a Lloegr mewn sawl sefydliad a phwyllgor sy'n ymwneud â strategaethau iechyd, a chafodd ei hanrhydeddu gan nifer o brifysgolion amlwg am ei gwaith. Yn wreiddiol o Lanrwst, mae cyfraniad Ruth Hussey i'r GIG yn arbennig, ac yn deillio o'i hawydd i weithio dros wella iechyd cymunedau cyfan, yn hytrach nag unigolion yn unig.
Esyllt Llwyd: Meddyg teulu yw Dr Esyllt Llwyd, Llanrug, Caernarfon, sy'n arwain dwy feddygfa leol gyda thua 6,000 o gleifion. Mae hefyd yn cynghori myfyrwyr lleol sy'n ystyried astudio meddygaeth, gan eu mentora'n ofalus, a chynnig cyfleoedd iddyn nhw weithio yn y feddygfa i gael blasu'r gwaith. Mae'n gwasanaethu ar Fwrdd Cymru Marie Curie, a chefnogodd yr ymgyrch i sefydlu Ysgol Feddygol ym Mangor. Mae'n is-gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Brynrefail, ac yn creu cysylltiadau gwerthfawr rhwng yr ysgol a'r gymuned drwy drefnu i ddisgyblion y chweched dosbarth ymweld â chleifion unig a'r rheini â chyflyrau dwys yn eu cartrefi i gael sgwrs.
Eilir Rowlands: Brodor o Sarnau a Chefnddwysarn yw Eilir Rowlands, ac ni symudodd erioed o'i fro. Bu'n ffermio am flynyddoedd cyn defnyddio'i ddoniau cynllunio i fod yn dir-luniwr sy'n creu gerddi. Mae'n rhan annatod o'r gymuned leol, yn un o hoelion wyth diwylliant ei fro, ac wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth i'r Pethe. Mae'i gyfraniad yn lleol ac yn ehangach yn enfawr; does neb yn fwy parod i gynnig ei wasanaeth nag Eilir. Yn genedlaethol, mae'n un o ymddiriedolwyr Cronfa Goffa D. Tecwyn Lloyd, a sefydlwyd i hybu addysg Gymraeg a'n diwylliant, cronfa sydd o gymorth mawr i sefydliadau ar draws Cymru.
Clive Wolfendale: Yn gyn-Brif Gwnstabl dros dro gyda Heddlu Gogledd Cymru, mae Clive Wolfendale, Llandrillo yn Rhos, yn brif weithredwr CAIS, yr Asiantaeth Cyffuriau ac Alcohol yng Nghymru. Dysgodd y Gymraeg gyda'r heddlu, ac mae wedi parhau i ddysgu a defnyddio'r iaith, gan gefnogi a hyrwyddo pwysigrwydd gwasanaethau Cymraeg ar gyfer pobl sy'n dioddef o ddibyniaeth, salwch meddwl a sgil-effeithiau trawma. Mae'n rhan allweddol o nifer o gyrff yn y maes hwn ar draws Cymru, ac yn drysorydd Nant Gwrtheyrn, ar ôl iddo ef ei hun brofi gwerth y Ganolfan wrth ddysgu Cymraeg. Mae'n ymddiddori mewn cerddoriaeth ac mae'n gyn-arweinydd Band Tref Llandudno ac yn arweinydd Band Swing Llandudno.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2020