Pethau'n dechrau gwella i siopau wedi Covid-19?

  • Cyhoeddwyd
Siop

Mae'r ffigyrau ar gyfer mis Mehefin yn awgrymu bod siopau'n dechrau ennill tir yn ôl wedi'r cyfnod clo.

Fe ddaw yn dilyn y cwymp mwyaf ar gofnod i fusnesau manwerthu yn ystod y pandemig.

Cynyddodd swm y nwyddau a werthwyd y mis diwethaf 13.9%, meddai'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Dywedodd yr ONS bod y "darlun yn gymysg" ar draws gwahanol sectorau.

Yn Siop y Pethe mae'r trosiant "llai na hanner" o'i gymharu â'r un amser y llynedd.

Daw hynny wrth i ffigyrau awgrymu bod siopau'r stryd fawr yn dal i edrych yn dawel.

'Pobl yn mynd nôl i siopa'

Dywedodd y perchennog Aled Rees: "Mae pethau wedi cynyddu ar-lein i ni, ond tipyn mwy yn ystod misoedd cyntaf y clo.

"Ers i ni agor ein drysau, mae'n amlwg erbyn hyn bod pobl yn mynd 'nôl i siopa yn eu trefi lleol."

Mae ffigyrau Swyddfa'r Ystadegau Gwladol yn dangos bod £3 o bob £10 bellach yn cael ei wario ar-lein - twf o tua 10% o'i gymharu â mis Chwefror.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cynthia Binks yn falch o gael gweld pobl yn ei siop eto

Yn un sy'n falch o gael dychwelyd i "normalrwydd" mae Cynthia Binks yn teimlo bod y busnes gwerthu gwlân yn ddigon unigryw i allu goroesi.

"Dwi'n teimlo'n hyderus achos bod y stwff dwi'n gwerthu yn eithaf arbenigol. Maen nhw eisiau'r edafedd ac ati ac felly dwi'n brysur iawn.

"Mae'n ôl i fel oedd pethau bob dydd, o'r blaen.

"Mae'n neis gweld pobl, yn enwedig i fi sy'n gymaint o people person!"

'Siopau bwyd yn dal i brofi twf'

Fe ddywedodd Jonathan Athow o'r ONS bod "rhai sectorau yn ei chael hi'n anodd".

"Er hynny, mae siopau bwyd yn dal i brofi twf wrth i ni fwyta allan llai," meddai.

O dan yr wyneb, mae'r tirlun ar gyfer y sector manwerthu wedi "gweld newidiadau mawr ers dechrau mis Mawrth," meddai.