Nifer o amgueddfeydd i aros ynghau er y caniatâd i ailagor

  • Cyhoeddwyd
Pentref Celtaidd Sain Ffagan
Disgrifiad o’r llun,

Bydd system unffordd i ymwelwyr â Sain Ffagan pan fydd yr amgueddfa yn ailagor fis Awst

Dim ond llond llaw o amgueddfeydd ac orielau fydd yn ailagor ar y diwrnod mae cyfyngiadau coronafeirws ar y sector yn cael eu codi.

O ddydd Llun mae rhai o safleoedd diwylliannol mwyaf poblogaidd Cymru yn cael yr hawl i ailagor.

Ond bydd atyniadau Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn dechrau agor eto ar 4 Awst, tra bod rhai amgueddfeydd llai yn bwriadu aros ynghau tan 2021.

Dywedodd Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru fod ailagor yn "fusnes cymhleth a chostus".

Bydd disgwyl i ymwelwyr sy'n mynychu amgueddfeydd ac orielau barchu mesurau ymbellhau cymdeithasol, tra bod systemau tocynnau yn cael eu cyflwyno mewn rhai safleoedd er mwyn rheoli niferoedd yr ymwelwyr.

Mae disgwyl i brofiad yr ymwelwyr gael ei addasu hefyd, gyda rhai ardaloedd yn debygol o gael eu cau pan nad oes modd sicrhau pellter diogel.

Ffynhonnell y llun, Geograph/Penny Mayes
Disgrifiad o’r llun,

Mae Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn dibynnu ar incwm ymwelwyr yn ystod misoedd yr haf

Mae'r orielau yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn Llanbedrog yn un o'r rheiny fydd yn ailagor ddydd Llun.

Mae'n un o'r ychydig safleoedd i groesawu ymwelwyr eto ar y diwrnod mae'r cyfyngiadau yn cael eu codi.

Dywedodd Gwyn Jones, cyfarwyddwr y safle, bod y cyfnod clo wedi cael "effaith fawr" ar fusnes.

"Oherwydd ein bod yn hunan-ariannu i raddau helaeth, rydym yn dibynnu'n fawr ar y fasnach y gallwn ei chynhyrchu rhwng y Pasg a mis Hydref," meddai.

"Dyna pryd rydyn ni'n gwneud elw, ac yn naturiol rydyn ni'n gwneud colled dros y gaeaf. Felly mae wedi cael effaith enfawr ar y ganolfan ei hun."

Trefniadau newydd

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae'r oriel wedi gallu agor ei chaffi gyda bwydlen prydau parod, ond mae angen i ymwelwyr ddychwelyd er mwyn cynyddu ei hincwm.

Ychwanegodd Mr Jones: "Rydyn ni wedi cael help gan ffederasiwn Cymru amgueddfeydd a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gennym ni'r arwyddion ar waith, y PPE ar waith - rydyn ni wedi gwario dros £1,000 ar PPE, sy'n swm sylweddol i ni, ond roedd yn rhaid i ni ei wneud.

"Bydd gennym stiward yn croesawu pobl wrth y drws, yn cymryd trac ac yn olrhain gwybodaeth, a byddwn yn caniatáu 20 o bobl ar y tro i mewn i'r oriel."

Disgrifiad o’r llun,

Mae David Anderson yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl i'r "gofod eiconig" yn Sain Ffagan

Mae rhai amgueddfeydd ac orielau yn agor yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru eisoes wedi cyhoeddi y byddan nhw'n ailagor eu saith safle o amgylch Cymru gan ddechrau ar 4 Awst gydag Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yng Nghaerdydd.

Dywedodd y cyfarwyddwr cyffredinol, David Anderson, ei fod yn "wirioneddol falch" o allu ailagor y drysau i Sain Ffagan.

"I'r rhai ohonom sy'n gweithio yn yr amgueddfa, rydym wedi ei golli cymaint. Rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl wedi gweld ei eisiau'n fawr hefyd," meddai.

"Rydyn ni wedi bod ar agor ar-lein, ac rydyn ni wedi bod yn darparu gwasanaethau mewn pob math o ffyrdd eraill... ond does dim byd tebyg i fod yn Sain Ffagan, gyda'r adeiladau o'n cwmpas, a gallu cerdded o gwmpas yn y gofod eiconig anhygoel hwn."

Disgrifiad o’r llun,

Un o'r arwyddion newydd sydd yn hysbysu ymwelwyr o'r mesurau diogelwch newydd yn Amgueddfa Sain Ffagan

Bydd angen i ymwelwyr archebu tocyn am ddim ymlaen llaw, a bydd yn rhaid iddyn nhw barchu system unffordd o amgylch y safle.

Dim ond yr ardaloedd awyr agored fydd ar agor, ac ni fydd caniatâd i ymwelwyr fynd i mewn i'r adeiladau hanesyddol sydd wedi'u lleoli o amgylch tir yr amgueddfa.

Dywedodd Mr Anderson: "Rydym yn wirioneddol ymwybodol o'n cyfrifoldeb, fel amgueddfa gyhoeddus, am iechyd a diogelwch ein hymwelwyr a'n staff.

"Rydym wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i ddylunio'r profiad mewn ffordd a fydd yn cadw pobl yn ddiogel, a gobeithio y bydd pobl yn teimlo'n hyderus pan ddônt atom y byddant yn gweld ein bod wedi gwneud hynny hefyd.

"Mae'n golygu bod y profiad yn wahanol. Ond rwy'n credu y byddem yn dweud ei bod yn llawer, llawer gwell agor rhan o Sain Ffagan na'i gadw ar gau."

Ailagor yn 'fusnes costus'

Er bod rhai amgueddfeydd wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu ailagor mae eraill eto i bennu dyddiad i agor eu drysau. Mae llawer wedi dibynnu ar gyllid gan lywodraethau Cymru a'r DU ers mis Mawrth.

Mae gwybodaeth wedi cael ei rannu yn eu plith gan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru - corff sydd wedi hysbysu'r aelodau o'r gefnogaeth sydd ar gael a'r cyfyngiadau ar eu gweithgareddau.

"Mae ailagor mewn gwirionedd yn fusnes cymhleth a chostus," meddai Victoria Rogers, llywydd Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru.

"Mae sector amgueddfeydd Cymru yn gymysgedd bywiog o bob math o amgueddfeydd a phob math o siapiau a meintiau, ac mae hynny'n mynd i gael effaith wirioneddol ar faint fydd yn gallu ailagor yn gyflym.

"Mae ein haelodau wedi dweud wrthon ni fod rhai yn cymryd ychydig mwy o amser i feddwl sut y mae modd iddyn nhw ailagor yn ddiogel i'w staff, eu hymwelwyr a'u gwirfoddolwyr.

"Bydd amgueddfeydd eraill sydd wir yn gorfod cydbwyso'r angen hwnnw i gynhyrchu incwm yn erbyn costau ailagor, gyda'r glanhau gwell, staffio ychwanegol a'r PPE sydd ei angen. Felly bydd rhai amgueddfeydd yn cael trafferth gyda'r costau hynny."

Rhybuddiodd Ms Rogers na fyddai rhai amgueddfeydd, yn enwedig atyniadau llai, yn ailagor tan 2021.

Ymhlith yr amgueddfeydd sy'n aros tan y flwyddyn nesaf mae Amgueddfa Dinbych-y-pysgod.

Dywedodd cadeirydd yr ymddiriedolwyr, y Cynghorydd Michael Williams, fod yr amgueddfa wedi archwilio amryw opsiynau ar gyfer ailagor "ond nid oes yr un ohonynt yn cynnig amgylchedd hyfyw a diogel yn y bôn y gallem wneud hynny arno".