Cwpwl yn cynnig bwthyn yn wobr raffl am £5 y tocyn
- Cyhoeddwyd
Mae cwpwl o Wynedd yn cynnig eu tŷ fel gwobr mewn raffl gan godi £5 y tocyn.
Mae Ryan McLean a Katherine Jablonowska wedi treulio dwy flynedd yn adnewyddu Cwellyn Cottage yn Rhoslan ger Criccieth.
Maen nhw'n credu taw dyma'r tro cyntaf yn y DU i unrhyw un brynu eiddo i'w adnewyddu a'i rafflo.
Mae'n gyfreithlon i rafflo tŷ yn y DU ond mae yna amodau llym ac mae'n rhaid iddo gael sêl bendith y Comisiwn Gamblo.
'Swnio'n hwyl'
"Welish i'r syniad o rafflo tŷ rai blynyddoedd yn ôl," meddai Mr Mclean. "Mae'r DU yn un o'r gwledydd prin ble mae'n gyfreithlon, gyda rheolau caeth iawn, a roedd yn swnio fel rhywbeth fydde'n hwyl i'w wneud.
"Ro'n i wastad wedi bod eisiau adnewyddu tŷ. Mae fy nheulu wedi gwneud rhywbeth tebyg pan roeddwn yn blentyn.
"Felly wnes i feddwl bydde cyfuno'r ddau beth yn rhyfeddol ac yn wahanol i'r broses arferol o brynu, adnewyddu a gwerthu."
Fe wnaeth Mr Mclean a'i gymar adael eu swyddi i ganolbwyntio ar adnewyddu'r tŷ'n llawn amser, a gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith eu hunain.
'Potensial mawr'
Dywedodd Ms Jablonowska: "Pan awgrymodd o yn y lle cynta' i rafflo'r tŷ, ro'n i'n meddwl ei fod o'n wallgof, ond dyna ran o hud yr holl beth. Mae Ryan yn cael rhai syniadau anhygoel ond dydy o heb fynd o chwith hyd yn hyn.
"Naethon ni ddechrau edrych ar ffyrdd o wneud i hyn lwyddo, a sylweddoli fod potensial mawr i roi cyfle i rywun brynu eu cartref cyntaf.
Mae'r cwpl yn anelu at werthu o leiaf 80,000 o docynnau cyn 15 Medi er mwyn cynnal y raffl.
Bydde hynny'n codi digon o arian i dalu costau cynnal y raffl, a byddai yna £290,000 yn weddill i'r cwpl, sef gwerth amcangyfrif yr eiddo.
Os na fyddan nhw wedi gwerthu'r holl docynnau erbyn 15 Medi, bydd gwobr ariannol yn cael ei rhoi yn hytrach.
Dywed Mr Mclean, cogydd sy'n hanu o Ganada, eu bod yn gobeithio gweld rhywun o Wynedd yn ennill y bwthyn, ond fod hi'n amhosib trefnu'r raffl i sicrhau fod yr enillydd yn berson lleol.
"Rydym yn gwybod pa mor anodd mae'n gallu bod i bobol leol fforddio tai yn yr ardal yma," meddai.
"Rwy'n meddwl os ydych chi am werthu unrhyw dŷ yng Nghymru, mae yna wastad siawns y caiff ei brynu gan rywun o du hwnt o Gymru. Os rydych chi'n gwerthu neu'n rafflo, mae'n anodd iawn neud o'n 'lleol yn unig'."
"Ond fydde ddim yn ein plesio mwy nag iddo fynd i berson lleol. Mae'r ymateb gan bobol yng Nghriccieth a'r ardal gyfagos wedi bod yn aruthrol ac mae'r gefnogaeth leol wedi bod yn ardderchog."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2018