Agor siop lyfrau a enillwyd ar raffl yn Aberteifi
- Cyhoeddwyd
Bydd siop lyfrau yn Abertefi yn agor pennod newydd ddydd Llun wrth i'r dyn a'i henillodd mewn raffl gymryd yr awennau.
Yn gynharach eleni roedd cyn-berchennog siop Bookends, Paul Morris wedi rhoi cyfle i unrhyw un a oedd yn gwario dros £20 yn y siop i'w hennill mewn raffl.
Byddai'r enillydd hefyd yn cael holl gynnwys y siop.
Dywedodd Mr Morris ei fod am roi'r cyfle i rywun na fyddai fel arfer yn cael y siawns i ymgymryd â menter o'r fath.
Enillydd y raffl oedd Ceisjan Van Heerden o'r Iseldiroedd a ddydd Llun bydd yn agor ei siop yn Aberfeifi.
"Ges i sioc ofnadwy, pan glywais fy mod wedi ennill," meddai Mr Van Heerden. "Roedd rhaid i fi gael coffi ac eistedd i lawr."
Cafodd siop Bookends ei sefydlu gan Mr Morris yn 2014 wedi iddo weld 18,000 o lyfrau ar werth ar y we.
Ag yntau'n dioddef o gryd cymalau a'r cyflwr yn gwaethygu roedd rhaid iddo werthu'r siop ond doedd e ddim am ei gwerthu i gadwyn.
Am dri mis bu pobl yn cymryd rhan mewn raffl ac ar 1 Medi, i gyfeiliant y gân The Winner Takes It All gan Abba, cyhoeddwyd mai Mr Van Heerden oedd yr enillydd.
Mae'n bwriadu rhedeg y siop gyda'i ffrind, Svaen Bjorn o Wlad yr Iâ.
Mae'r ddau wedi bod yn ffrindiau ers naw mlynedd ers cyfarfod ar y we ond dyw'r ddau ddim wedi cyfarfod ei gilydd wyneb yn wyneb.
"Mae hynny'n ymddangos yn rhyfedd," meddai Mr Van Heerden, " ond mae'n gyfle gwych ac mi fyddwn yn sicrhau llwyddiant y fenter."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2018