Anaf difrifol i fenyw 'a syrthiodd o adeilad'
- Cyhoeddwyd
Mae menyw wedi cael ei hanafu'n ddifrifol ar ôl syrthio o adeilad yn Abertawe, yn ôl Heddlu De Cymru.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi adroddiadau fod menyw wedi syrthio o adeilad yn Stryd Matthew tua 17:50 ddydd Llun.
Cafodd y fenyw ei chludo i'r ysbyty ac mae dyn 45 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod.
Mae'r llu'n ymchwilio i'r achos ac yn dweud y bydd swyddogion yn parhau yn yr ardal "am beth amser".
Mae ditectifs yn apelio am wybodaeth ac yn gofyn i dystion gysylltu â nhw.