Cyn-aelod Conwy, Denise Idris Jones, wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau'n cael eu rhoi i'r cyn-aelod Cynulliad yn etholaeth Conwy, Denise Idris Jones, sydd wedi marw yn 69 oed.
Cafodd Mrs Jones ei hethol i'r Cynulliad yn 2003, a bu'n cynrychioli'r ardal hyd nes i sedd Conwy gael ei ddiddymu yn 2007.
Bu'r gyn-athrawes, a gafodd ei geni yn Rhosllanerchrugog, ger Wrecsam, yn aelod o'r pwyllgorau diwylliant, Cymraeg ac addysg y cynulliad.
Roedd ganddi ddau o fechgyn a phedwar o wyrion.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei bod wedi bod yn "llais go iawn i ogledd Cymru, dros addysg a'r Gymraeg".
"Daeth â'i phrofiad fel athrawes i'w gwaith fel aelod etholedig Conwy.
"Mae fy meddyliau, a meddyliau mudiad Llafur Cymru, gyda'i theulu ar yr adeg hon," meddai.
Dywedodd cyn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad, Nick Bourne, ei fod yn drist o glywed y newyddion: "Roedd hi'n berson hyfryd, bob amser yn gwenu, bob amser yn garedig."