Rhybudd i bobl ifanc wfftio her siglenni babanod TikTok
- Cyhoeddwyd

Mae gwasanaethau tân ac achub yn rhybuddio'r cyhoedd i beidio cael eu hunain yn gaeth mewn siglenni babanod yn sgil pryder fod pobl ifanc yn gwneud hynny fel rhan o her ar yr ap poblogaidd, TikTok.
Ers dechrau Gorffennaf, mae criwiau tân ar draws y DU wedi cael eu galw i ryddhau nifer o bobl ifanc yn eu harddegau oedd yn sownd mewn siglenni plant.
Fel rhan o'r her TikTok mae pobl ifanc yn ffilmio'u hunain yn defnyddio'r siglenni ond mae rhai methu dod allan ohonyn nhw wedyn.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i ryddhau dau berson yn eu harddegau o siglenni nos Fawrth - un yng Nghaerdydd a'r llall ym Mlaenau Gwent.
'Fe allai frifo'
Ysgrifennodd y gwasanaeth ar Twitter nos Fawrth: "Os ydych chi dros bedair oed, peidiwch â cheisio mynd i mewn i un!"
Ychwanega'r neges: "Fe allai frifo pan mae ein criwiau'n ceisio eich tynnu ohono. Mae'r galwadau hyn yn cadw ein criwiau tân rhag ymateb mor gyflym i achos brys eraill."

Mae sawl achos wedi'u cofnodi'n ddiweddar ar draws y DU ble bu'n rhaid rhyddhau person o siglen ar gyfer babanod
Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd llefarydd: "Rydym yn ailadrodd ein cyngor blaenorol ac yn gofyn i'r cyhoedd, os gwelwch yn dda, a wnewch chi osgoi creu risg i chi eich hun fel hyn ac aros yn ddiogel."
Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod criwiau lleol wedi ymateb i ryddhau dwy ferch o siglenni - un yn Yr Wyddgrug ar 22 Gorffennaf a'r llall yn Y Rhyl ar 23 Mehefin.
Dywedodd llefarydd: "Yn amlwg ni allwn gadarnhau os roedd y rhain â chysylltiad â heriau TikTok."
Roedd yna achos pellach wedyn yn Nolgellau ddydd Mercher pan gafodd y gwasanaeth eu galw am 12:56 i ryddhau person ifanc.
Mae achosion tebyg wedi'u cofnodi yn Lloegr hefyd. Cafodd fideo yn dangos merch 14 oed yn cael ei thynnu o siglen yn Sir Rhydychen ei rannu'n helaeth ddechrau Gorffennaf gan ddenu sylw ar draws y byd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai 2020