Nofwyr Aberdyfi yn 'lwcus iawn' i gael eu hachub o'r môr

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Arwel Jones: "Roedden nhw'n lwcus iawn ein bod ni i gyd yna"

Roedd gwirfoddolwr gyda gwasanaeth y bad achub yn lwcus i "fod yn y man iawn ar yr amser iawn" pan lwyddodd i helpu achub tri o bobl o'r môr yn Aberdyfi.

Llwyddodd Arwel Jones, 30, i achub dau lanc yn eu harddegau, a dyn yn ei 20au.

Roedd y tri ymhlith nifer i gael eu hachub o'r môr yn Aberdyfi dydd Sul.

Mae mam un bachgen 13 oed gafodd ei achub wedi dweud nad oes modd rhoi digon o ddiolch i'r gwasanaethau brys.

'Un o'r hogiau dan y dŵr'

Dywedodd Mr Jones, sy'n byw yn y pentref: "Roeddwn yn cerdded ar hyd y traeth gyda'r teulu pan wnaeth fy ngwraig Kate sylwi ar ddau berson yn y dŵr, yna fe welodd rhywun yn ei ddillad yn rhedeg i'r môr.

"Dyna pan oeddwn yn gwybod eu bod mewn trafferth."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rian Bradburn, canol, yn anymwybodol pan gafodd ei dynnu i'r môr yn Aberdyfi

Dywedodd Mr Jones iddo weld fflôt achub ar y traeth, gafael ynddo a rhedeg i mewn i'r dŵr a nofio 100 troedfedd (30 metr) tuag ag y nofwyr.

"Wrth i mi agosáu o' ni'n gallu gweld un o'r hogiau yn mynd dan y dŵr," meddai.

"Nes i weiddi arnynt i arnofio ar eu cefnau.

"Llwyddodd dau i wneud, ond roedd yn llall mewn gormod o banig gan lyncu dŵr."

'Lwcus iawn'

Erbyn iddo gyrraedd - roedd un wedi mynd dan y dŵr.

Llwyddodd i'w dynnu uwchben y tonnau, a rhoi'r tri ar y fflôt achub.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r traeth yn Aberdyfi yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr

"Yn ffodus iawn roedd rhai o fy ffrindiau wrthi yn hwylfyrddio a barcuta ar y pryd.

"Llwyddais i gael eu sylw ac fe wnaeth yr hwylfyrddiwr lwyddo i godi'r un oedd mewn mwyaf o drafferth. "Fe wnaeth ffrind arall helpu'r gweddill ohonyn nhw yn ôl."

Llwydodd yr hwylfyrddiwr i roi cymorth ac adfywio un o'r nofwyr gan roi CPR tra dal allan yn y môr.

"Fe wnaeth o gyfogi ac yna dechrau anadlu eto. Roedd o'n lwcus iawn."

Dywedodd Mr Jones i ddau ambiwlans awyr gyrraedd ymhen 20 munud, ac yna hofrennydd Gwylwyr y Glannau.

'Diolch am achub fy mab'

Roedd Rian Bradburn, 13, yn anymwybodol pan gafodd ei dynnu o'r dŵr gan un o'r achubwyr.

Cafodd ei adfywio cyn cael ei hedfan i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rian bellach wedi gwella digon i allu gadael Ysbyty Gwynedd a dychwelyd adref i'r Amwythig

Dywedodd ei fam, Sarah Lewis, nad yw ei mab yn cofio llawer, ond ei fod yn chwarae yn y dŵr.

"Cyn pen dim cafodd ei dynnu lawr gan y lli' a doedd o ddim yn gallu nofio 'nôl i'r wyneb," meddai.

"Alla i ddim meddwl be' fyddai wedi digwydd heb ymateb y gwasanaethau brys y diwrnod hwnnw, alla i ddim diolch ddigon iddyn nhw am achub fy mab."

Mae Rian wedi bod yn gwella yn yr ysbyty, ond mae bellach yn ddigon da i fynd adref i'r Amwythig.

Ychwanegodd Ms Lewis: "'Da ni'n teimlo mor lwcus bos Rian dal hefo ni, gallai popeth fod wedi troi allan mor wahanol."