Carchar am oes am drywanu menyw 38 oed i farwolaeth

  • Cyhoeddwyd
Brian ManshipFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe laddodd Brian Manship Sarah Hassall yn ei gartref wedi i'r ddau gwrdd ar noson allan

Mae dyn o Bontypridd wedi cael dedfryd o garchar am oes ar ôl pledio'n euog i lofruddio menyw 38 oed wedi i'r ddau gwrdd ar noson allan.

Bydd yn rhaid i Brian Manship, 38, dreulio o leiaf 20 mlynedd dan glo am drywanu Sarah Hassall i farwolaeth fis Hydref y llynedd.

Daeth yr heddlu o hyd i'w chorff yn fflat y diffynnydd wedi ei lapio mewn cyrten.

Roedd cymydog wedi galw swyddogion ar ôl clywed synau o'r eiddo yn oriau mân ddydd Sul 6 Hydref.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sarah Hassall wedi gweithio i'r Awyrlu a'r Peirianwyr Brenhinol am 14 o flynyddoedd

Fe wnaeth Manship ddianc trwy ffenestr ystafell llawr cyntaf, ond fe gafodd swyddogion heddlu arfog o hyd iddo oriau'n ddiweddarach yn cuddio mewn isdyfiant nid ymhell o'r fflat.

Cafodd ei arestio a'i gyhuddo, ac fe blediodd yn euog i gyhuddiad o lofruddiaeth ym mis Ionawr.

'Perygl amlwg i gymdeithas'

Dywedodd y Prif Arolygydd Mark O'Shea o Heddlu De Cymru fod Ms Hassall, oedd yn hanu o Chelmsford, yn fam i ddau fab ifanc, ac yn gyn-aelod o'r lluoedd arfog "oedd â balchder enfawr yn ei gwasanaeth i'r wlad".

"Cafodd ei denu i fflat Manship a'i lladd yn y modd mwyaf ofnadwy. Mae'r ymchwiliad a'r achos llys wedi dangos fod Manship yn unigolyn hunangeisiol sydd yn amlwg yn berygl i gymdeithas ac i fenywod yn arbennig.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu wedi rhyddhau fideo o'r eiliadau gafodd Manship ei ganfod a'i arestio

"Cafodd ei llofruddio'n giaidd ganddo mewn ymosodiad hollol ddireswm ac anesboniadwy. Rwy'n credu ei fod wedi manteisio ar ei ffydd reddfol yn y bobl roedd yn eu cwrdd."

"Roedd Sarah yn caru cwrdd pobl newydd a chael anturiaethau, ac roedd yn teimlo fod angen byw bywyd i'r eithaf. Roedd ganddi ddyfodol disglair ac roedd yn edrych ymlaen at fagu ei phlant i fod yr un mor anturus â hithau."

Rhoddodd deyrnged hefyd i "urddas tawel" teulu a chyfeillion Ms Hassall yn ystod yr achos ac i'r sawl a gysylltodd â'r heddlu gyda'u pryderon.

Mae swyddogion arbenigol yn parhau i roi cefnogaeth i'w theulu.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Lluniau CCTV yn dangos Manship a Sarah Hassall yn dal tacsi yng nghanol Pontypridd

Dywedodd y Barnwr Keith Thomas y byddai'r ddedfryd wedi bod yn hirach oni bai fod Manship wedi pledio'r euog, ond ei fod yn argyhoeddedig ei fod wedi bwriadu lladd Ms Hassall.

Roedd archwiliadau fforensig yn dangos fod yr ymosodiad wedi digwydd dros gyfnod hir mewn sawl ystafell, gan ddechrau trwy ei dyrnu sawl tro ac yna trwy ei thrywanu gyda dwy gyllell wahanol.

Cafodd ei thrywanu 22 o weithiau.

Dywedodd y barnwr fod yr ymosodiad, dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, yn un ciaidd, a bod y diffynnydd â hanes o ymddygiad treisgar tuag at fenywod.