'Rhaid rheoli teithiau diangen dros y ffin' medd Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Traeth

Mae angen rheoliadau ar deithiau sydd ddim yn angenrheidiol rhwng Cymru a Lloegr, yn ôl Plaid Cymru.

Daw'r rhybudd bod angen rheoli teithiau ar ôl i gyfyngiadau Coronafeirws newydd gael eu gosod yng ngogledd-orllewin Lloegr.

Dywedodd AS y blaid dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville-Roberts: "Mi fydd 'na bobl yn teithio o'r ardaloedd hynny sydd wedi cael rhybudd i beidio cymysgu gyda'i gilydd, byddan nhw'n teithio'n unswydd i'w cartrefi gwyliau..."

Dywedodd Prif Weinidog Cymru bod y cyfyngiadau yng ngogledd Lloegr yn golygu bod yr ardaloedd "nôl yn y lle ble ydyn ni yng Nghymru heddi", a galwodd ar bobl sy'n teithio rhwng y ddwy wlad i fod yn "ofalus".

Cafodd rheoliadau yn ardal Manceinion, a rhannau o Sir Gaerhirfryn a Sir Efrog eu tynhau gan Lywodraeth y DU nos Iau, wrth i achosion o'r feirws gynyddu yno.

Mae Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson, hefyd wedi oedi llacio pellach dros y DU am bythefnos.

Dywedodd Ms Saville-Roberts ei bod wedi codi'r oblygiadau ar lefydd fel ei hetholaeth hi yng ngogledd Cymru gyda Mr Johnson.

"Dywedais wrth y prif weinidog, dwi'n gwybod achos eich cyhoeddiad chi heddiw, mi fydd 'na bobl yn teithio o'r ardaloedd hynny sydd wedi cael rhybudd i beidio cymysgu gyda'i gilydd, byddan nhw'n teithio'n unswydd i'w cartrefi gwyliau...

"Ydych chi'n mynd i wneud cyhoeddiad am deithio diangen?

"Mi wnaeth o gydnabod y cwestiwn ond dim byd mwy na hynny."

Ychwanegodd ei bod wedi "erfyn ar Brif Weinidog Cymru i ailystyried" y rheoliadau ar deithio diangen yma.

"Da ni'n gwybod bod y bobl fydd yn teithio yma, mai o'r ardaloedd fel Manceinion byddan nhw dod."

Daw wrth i Lywodraeth Cymru ddweud y bydd bwytai a thafarndai yn cael agor y tu mewn o ddydd Llun.

"Os ydyn ni am atal yr haint, mae'n rhaid i ni allu symud yn sydyn ar y penderfyniadau...

"Mae cael pobl i fewn i dafarndai a bwytai ar hyn o bryd i weld i fi, i nifer o'r boblogaeth, yn rhywbeth fedrwn ni ddim ei wneud."

'Un cam ar y tro'

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, bod y cyfyngiadau ar ardaloedd o Loegr gyfystyr â'r sefyllfa yng Nghymru.

"Beth ni'n dweud wrth bobl sy'n teithio o Gymru i Loegr neu o Loegr i Gymru yw byddwch yn ofalus, a gwneud y pethau ni gyd yn gwybod amdanynt," meddai.

"Wrth gwrs ni yn meddwl am beth maen nhw'n ei wneud yn Lloegr, ond yng ngogledd Lloegr maen nhw fwy neu lai nôl yn y lle ble ydyn ni yng Nghymru heddi.

"Ond ni'n edrych ar be' sydd wedi digwydd yn Sbaen, yn Awstralia ac yn y blaen, a dyna pam ni'n neud pethau fel y'n ni - yn ofalus, un cam ar y tro."