Tafarndai a bwytai Cymru i ailagor yn llawn ddydd Llun
- Cyhoeddwyd

Cafodd bwytai a thafarndai eu cau yng nghanol mis Mawrth
Bydd tafarndai, bwytai a chaffis yng Nghymru yn cael ailagor yn llawn yr wythnos nesaf.
Roedd busnesau lletygarwch eisoes yn gallu ailagor y tu allan yng Nghymru, ond yng ngwledydd arall y DU maen nhw wedi cael caniatâd i ailagor y tu mewn.
Cafodd bwytai a thafarndai eu cau yng nghanol mis Mawrth, cyn dechrau'r cyfnod clo.
"Fe ddywedon ni cwpl o wythnosau yn ôl, pe bai popeth yn dilyn ein cynllun, y byddai modd i ni ailagor lletygarwch dan do - caffis, bwytai, bariau ac yn y blaen - ar 3 Awst," meddai Mr Drakeford wrth orsaf radio Heart.
"Roedd hynny'n ddibynnol ar gyflwr coronafeirws. Ry'n ni wedi gwneud ein gwiriadau. Ry'n ni'n hyderus nawr bod modd i ni fynd yn ein blaenau."

Mae tafarndai a bwytai wedi gallu ailagor tu allan ers 13 Gorffennaf
Dywedodd Mr Drakeford bod y "ffordd ofalus" mae tafarndai a bwytai wedi ailagor tu allan wedi creu argraff arno.
"Mae pobl yn eistedd pellter gofalus o'i gilydd, bwyd yn cael ei weini i'r bwrdd, arwyddion ar y llawr i sicrhau nad yw pobl yn taro mewn i'w gilydd mewn camgymeriad ac yn y blaen," meddai.
"Byddwn yn disgwyl gweld yr un gofal dan do gan bobl sy'n rhedeg bariau a thafarndai - ac yna bydd hynny'n ddiogel."
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r diweddaraf o ran llacio'r cyfyngiadau coronafeirws ddydd Gwener.
Mae Mr Drakeford eisoes wedi awgrymu y gallai cyhoeddiad am gampfeydd fod ar y gorwel, gan ddweud ei fod yn "awyddus iawn" i weld y sector yn ailagor.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2020