Paragleidiwr yn syrthio i'r ddaear yn ardal Rhosili

  • Cyhoeddwyd
Hofrennydd 187Ffynhonnell y llun, MCA/Penarth Coastguard

Mae person wedi cael ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Treforys ar ôl i baragleidiwr gwympo i'r ddaear yn ardal Rhosili.

Cafodd yr awdurdodau eu galw i benrhyn Gŵyr am 13:15.

Cafodd tîm achub Gwylwyr y Glannau ac hofrennydd eu hanfon, ynghyd â thîm Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Yno hefyd mae Heddlu De Cymru sy'n cydlynu'r gwaith achub.