Gwahardd ceir i helpu busnesau ddilyn rheolau Covid-19
- Cyhoeddwyd
Ni fydd ceir yn cael defnyddio rhai o strydoedd siopa prif drefi Sir Gaerfyrddin yn ystod y dydd, er mwyn helpu busnesau ddilyn canllawiau coronafeirws.
Bydd llwybrau un-ffordd hefyd yn cael eu sefydlu i helpu pobl giwio a chadw pellter.
Bydd llefydd parcio'n cael eu symud i wneud mwy o le i bobl, a bydd cyfyngiadau cyflymder yn cael eu gostwng i 20 m.y.a.
Bydd ceir yn cael eu gwahardd o Heol y Brenin, Heol y Frenhines a Sgwâr Nott, Caerfyrddin rhwng 10:00 a 16:00.
Yn Llanelli bydd Stryd Cowell yn dilyn yr un drefn rhwng 10:00 a 16:00, a bydd rhan o Stryd y Gwynt Rhydaman ar gyfer cerddwyr yn unig.
Dywedodd Cyngor Sir Gâr y bydd y camau hyn hefyd yn gyfle i fesur newidiadau yn safon yr aer.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Emlyn Dole, ei fod yn gobeithio y byddai'r mesurau newydd yn helpu busnesau.
"Rydym yn gobeithio'n fawr y bydd pobl yn dod yn ôl i ganol ein trefi ac yn eu helpu i ffynnu eto trwy siopa a threulio'u hamser hamdden yn lleol.
"Rydym yn annog pobl i brynu'n lleol a chefnogi busnesau Sir Gâr," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2020