Cynllun Nyth Bangor: 'Angen y celfyddydau fwy nag erioed'
- Cyhoeddwyd
Gyda'r esgid yn gwasgu mewn cymaint o ffyrdd ar hyn o bryd, mae 'na bryder amlwg y gallai meysydd fel y celfyddydau ddiodde' fwy nag eraill.
Ond mae gan un cwmni theatr yng ngogledd-orllewin Cymru gynlluniau i fuddsoddi yn y dyfodol, gan ddadlau ei bod hi'n bwysicach nag erioed i sicrhau bod gan y celfyddydau rôl gref wrth adfer ein cymunedau wedi'r argyfwng.
Ar hyn o bryd mae cartre' Frân Wen ym Mhorthaethwy, ond maen nhw wedi prynu hen Eglwys Santes Fair ar Ffordd Garth ym Mangor ac yn gobeithio agor canolfan gelfyddydol newydd yno fydd yn gartre' i blant, pobl ifanc, y gymuned leol a pherfformwyr proffesiynol, o'r enw Nyth.
Mae'r ieuenctid wastad wedi bod yn ganolbwynt i waith y cwmni - ac mae eu llais wedi bod wrth wraidd y datblygiad diweddara' yma.
"O fewn y dyluniad, mae 'na sawl gofod i bobl ifanc gymryd drosodd, i greu gwaith i fod yn greadigol, i herio'r hyn sy'n ddisgwyliedig ganddyn nhw gan y gymuned, ac wedyn i rannu'r llais yna - llais ifanc gogledd orllewin Cymru - gyda'r byd," meddai cyfarwyddwr artistig Frân Wen, Gethin Evans.
'Pwysig cael llais pobl ifanc'
Ymhlith y bobl ifanc sydd wedi bod yn cyfrannu'u syniadau, mae Poppy Burns a Mathew Beverley.
Dywedodd Poppy: "Mae wedi bod yn really da clywed syniadau gwahanol a dwi 'di cael rhoi barn fi ar hynny - a sôn am pa fath o le fasa pobl ifanc yn licio mynd iddo, i siarad neu greu.
"Mae'n bwysig cael llais pobl ifanc yn hynna."
Ychwanegodd Mathew: "Mae Frân Wen yn rhoi'r creative freedom 'na i bobl ifanc ac mae'n rwbath really sbesial.
"Bob tro dwi 'di gweithio efo Frân Wen, mae o 'di troi mewn i rwbath really cŵl, a jyst rwbath dwi 'di caru gwneud."
Gyda'r cais cynllunio newydd gael ei gyflwyno, mae'r penseiri Manalo & White wedi rhannu eu gweledigaeth i droi'r eglwys restredig Gradd II yn safle gyda gofod perfformio ac ymarfer, gweithdai a stiwdios.
Felly be'n union fydd yn digwydd yng nghanolfan Nyth?
"Mae 'na amrywiaeth go iawn dwi'n meddwl," meddai Mr Evans.
"Mae'n adnodd i'r gymuned logi a defnyddio'r gofodau, yn ogystal ag artistiaid proffesiynol yn creu cynyrchiadau, pobl ifanc sydd â diddordeb yn y celfyddydau yn creu gwaith ac yn datblygu sgiliau, ond hefyd bod o'n adnodd i bobl sydd erioed wedi ymwneud efo'r celfyddydau o'r blaen."
'Heriol dod o hyd i gyllid'
Mae'r prosiect yn costio £3.2m ac maen nhw'n dal i geisio sicrhau'r arian i gyd ac yn gwneud ceisiadau i'r Cyngor Celfyddydau a Llywodraeth Cymru.
"Mae'n gyfnod heriol iawn er mwyn dod o hyd i gyllid," meddai Mr Evans.
"Ond dwi'n meddwl bod o'n amser really pwysig i fuddsoddi yn y celfyddydau, a'r hyn mae'r celfyddydau'n gallu ei wneud yn adferiad y gymuned wedi'r argyfwng 'da ni'n byw ynddo rŵan - yn y tymor byr a'r tymor hir.
"Mae impact be' sy'n digwydd ar hyn o bryd ar ein pobl ifanc ni'n mynd i fod yn huge, a dwi ddim yn gwybod os 'da ni cweit yn deall be' fydd hynny eto.
"Be' ma' Nyth yn ei wneud ydy cynnig adnodd i bobl ifanc i ddatblygu fel unigolion ac fel cymuned."
Prosiect arall sydd wedi bod yn cadw'r cwmni'n brysur ydy Nythu, lle mae'r bobl ifanc wedi bod yn holi rhai dros 65 sy'n byw ger y safle ym Mangor am eu profiadau nhw o'r pandemig.
Dywedodd Mari Morgan, sy'n cydlynu prosiectau Frân Wen: "Dyna sy' wedi bod mor wych dros y blynyddoedd dwi wedi gweithio efo Frân Wen ydy gweld pobl ifanc yn datblygu drwy'r celfyddydau, yn cael budd a chael lles, a chreu rwbeth really cyffrous yn ardal y gogledd-orllewin.
"Be' sy' wedi bod yn really neis wrth symud i ardal newydd, sef Bangor, ydy cael dod i 'nabod cymuned newydd yn ardal Hirael.
"Ni 'di bod yn gweithio gyda grŵp o bobl hŷn ers cyn y cyfnod clo ac yn ystod y cyfnod clo er mwyn creu rhyw fath o gofnod.
"Mae'r pontio cenedlaethau 'ma - mae'n ddywediad ni'n arfer clywed - ond mae'n beth mor bwysig i gael pobl at ei gilydd, yn enwedig drwy'r celfyddydau achos dyna lle mae'r hud a lledrith yn gallu digwydd."
'Hwb i ni greu gwaith'
Mae Mr Evans yn gweld bod 'na angen am hwb o'r fath, er bod sawl canolfan berfformio arall yn yr ardal yn barod.
"Be' sy'n grêt efo canolfannau arbennig fel Pontio a Galeri ydy bod nhw'n cyflwyno gwaith anhygoel," meddai.
"Ond dydyn nhw ddim yn gwmnïau sy'n cynhyrchu, dydy'r adeiladau 'na ddim yn cynhyrchu theatr.
"Dyna dwi'n meddwl sy'n really pwysig am Nyth ydy bod o'n hwb i ni greu gwaith - theatr sy'n gallu teithio'r wlad a theithio'r byd, sydd gyda'r llais yna o ogledd-orllewin Cymru.
"Mae'n ofod i bobl ifanc ddefnyddio'r celfyddydau, defnyddio'r adeilad - eu hadeilad nhw ydy o."
Gyda'r cais cynllunio bellach wedi ei gyflwyno i Gyngor Gwynedd, os bydd 'na sêl bendith i'r datblygiad gobaith Frân Wen ydy symud i'w cartre' newydd ym Mangor erbyn Gwanwyn 2022.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd6 Awst 2019