Cyhuddo cyflwynydd radio o droseddau rhyw yn erbyn plentyn

  • Cyhoeddwyd
Kevin Johns
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y cyflwynydd ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Mawrth

Mae cyflwynydd radio o Abertawe wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o droseddau rhyw yn erbyn plentyn yn dyddio 'nôl i'r 1980au.

Mae Kevin Johns, cyflwynydd rhaglen frecwast ar orsaf Sain Abertawe, yn wynebu dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen dan 16 oed yn yr 80au cynnar.

Mae Mr Johns, 59 oed o Orseinon, hefyd wedi gweithio fel cyhoeddwr stadiwm ar gyfer Clwb Pêl-droed Abertawe, ac fe dderbyniodd MBE yn 2013 am ei waith elusennol.

Fe wnaeth y cyflwynydd ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Mawrth ac fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth nes ei ymddangosiad nesaf ym mis Medi.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Bauer Media, sy'n berchen ar orsaf Swansea Sound eu bod wedi cytuno gyda Mr Johns y bydd yn cymryd seibiant o gyflwyno er mwyn ei alluogi i "ganolbwyntio ar yr ymchwiliad heddlu".