Dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad beic sgi dŵr ym Môn
- Cyhoeddwyd

Digwyddodd y gwrthdrawiad yn agos at Bont Menai nos Sadwrn
Mae dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng cwch a beic sgi dŵr ger Ynys Môn.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod y gwasanaethau brys wedi cael eu galw i'r digwyddiad yn ardal Porthaethwy am 19:29 nos Sadwrn.
Cafodd y ddynes ei chludo i'r ysbyty wedi'r gwrthdrawiad ond bu farw'n ddiweddarach.
Mae swyddogion wedi gofyn am unrhyw dystion i'r digwyddiad i gysylltu gyda nhw ar 101, gyda'r rhif cyfeirnod Y114906.