Cyn-gyflwynydd, Ben Thomas, yn y ddalfa ar ei gais ei hun

  • Cyhoeddwyd
Ben ar Ffeil
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ben Thomas yn gyn-gyflwynydd ar y rhaglen newyddion i blant, Ffeil

Mae cyn-gyflwynydd gyda'r BBC a chyn-weinidog efengylaidd wedi cael ei gadw yn y ddalfa ar ei gais ei hun wrth iddo ddisgwyl dedfryd am gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant ac oedolion.

Fis diwethaf fe wnaeth Ben Thomas, 44 oed o Sir y Fflint, bledio'n euog i ymosod yn rhywiol, sbecian (voyeurism) a chreu delweddau anweddus o blant.

Ar ôl pledio'n euog cafodd fechnïaeth cyn ei ddedfrydu ar 29 Medi.

Ar y pryd dywedodd y barnwr Niclas Parry mai'r "ddedfryd anochel fydd dedfryd sylweddol dan glo".

Roedd Thomas wedi wynebu 40 o gyhuddiadau yn ei erbyn yn ymestyn dros dri degawd, o 1990 hyd 2019.

Digwyddodd y troseddau yng ngogledd Cymru, Sir Amwythig, Llundain a Rwmania.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Thomas yn cael ei ddedfrydu ar 29 Medi

Fe gafodd Thomas ei gyflogi gan BBC Cymru rhwng 1998 a 2005 gan weithio ar raglenni Ffeil a BBC Wales Today.

Fe adawodd Thomas y BBC i fynd yn weinidog efengylaidd gan ddod, maes o law, yn weinidog ar Eglwys Deuluol Cricieth yng Ngwynedd.