Arestio dau wedi achos saethu ym Mhenarth
- Cyhoeddwyd
Mae dau berson wedi cael eu harestio wedi adroddiadau fod rhywun wedi saethu gwn ym Mhenarth.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Redlands Road ychydig cyn 14:00 ddydd Iau.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod swyddogion arfog wedi eu danfon mewn ymateb "fel cam rhagofal".
Cadarnhaodd llefarydd fod "dim adroddiadau o unrhyw anafiadau difrifol" a bod llanc wedi cael toriad i'w law.
Cafodd dyn 20 oed o ardal Y Mynydd Bychan, Caerdydd a llanc 16 oed o Lanrhymni eu cludo i orsaf heddlu Bae Caerdydd ar ôl cael eu harestio ar amheuaeth o fod â gwn yn eu meddiant.
Mae'r llu'n apelio ar y cyhoedd i osgoi'r ardal gan fod y ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Heol Victoria a Heol Elfed.
Mae'r ymchwiliad i'r achos yn parhau, gyda swyddogion heddlu mewn amryw cyfeiriad yn y dref.
Mae'r llu'n awyddus i glywed gan unrhyw un all gynnig gwybodaeth neu luniau o'r digwyddiad.
Maen nhw'n gofyn i bobl ffonio'r heddlu ar 101, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111 gan ddyfynnu rhif digwyddiad 675.