Nodi 75 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth dros Japan
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws Cymru ddydd Sadwrn i nodi 75 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth dros Japan.
Mewn gwasanaeth sydd wedi'i recordio heb gynulleidfa yng Nghadeirlan Llandaf, Caerdydd, dywedodd yr Archesgob John Davies ei fod yn gobeithio y bydd pobl yn parhau i weithio a galw am fyd lle mae "cyfiawnder a gwirionedd yn trechu creulondeb ac anwybodaeth a byd lle gellir bod yn rhydd o unrhyw fath o ormes".
Cafodd gwasanaethau a digwyddiadau coffa eu cynnal hefyd mewn mannau eraill yng Nghymru gan gynnwys un ym Mharc Pont-y-pŵl.
Yn Rhuthun, codwyd baner o flaen y Neuadd Sir ac yn Wrecsam cafodd miloedd o flodau pabi sydd wedi'u gwneud gan bobl leol eu harddangos o flaen Eglwys San Silyn.
Bu sawl cyngor sir yn cefnogi'r ddau funud o dawelwch a gafodd ei gynnal ar draws y DU am 11:00.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Lewis, Cadeirydd Cyngor Sir Conwy: "Dyma ein cyfle i dalu teyrnged i'r cyn-filwyr a fu'n gwasanaethu yn y Dwyrain Pell, a gwnaeth eu haberth arwain at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd."
Yng Ngheredigion mae un gŵr, sydd bellach yn 100 oed, wedi bod yn trafod y cyfnod a dreuliodd yn Burma yn ystod yr Ail Ryfel Byd gyda'r Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Yn y cyfweliad, dywedodd Walford Hughes o Gartref Tregerddan yn Bow Street na fyddai byth yn anghofio'r hyn a wynebodd ef a'i gyd-filwyr yn Burma.
Ar ôl y rhyfel daeth Mr Hughes yn ysgrifennydd cenedlaethol Cymdeithas Seren Burma.
Mae'r gymdeithas yn hyrwyddo'r cyfeillgarwch a brofwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn Burma ac yn cefnogi cyn-filwyr yr ymgyrch a'u gweddwon.
'Mewn angof, ni chewch fod'
Dywedodd Mr Drakeford: "Ddydd Sadwrn, byddwn yn cofio'r 75 mlwyddiant hwn ac yn talu teyrnged i bawb yr effeithiwyd arnynt gan y rhyfel yn y Dwyrain Pell a'r Cefnfor Tawel. Aelodau'r lluoedd, eu teuluoedd a sifiliaid o bob rhan o'r byd.
"Rydym yn talu teyrnged i bawb sydd wedi dioddef oherwydd rhyfel, yn ein hamserau rhyfeddol ni o dan gysgod y coronafeirws, a fydd yn ddi-os yn effeithio ar ein cynlluniau arferol i goffáu.
"Ond a ninnau wedi gorfod aberthu a cholli anwyliaid, rydym yn cofio'r rheini 75 mlynedd yn ôl, pan oedd y gwrthdaro mwyaf dinistriol yn hanes y byd yn tynnu i'w derfyn. Aberth a dioddefaint y rheini a agorodd lwybr i'r genhedlaeth a'i dilynodd i weithio at heddwch.
"Rydym yn diolch ichi. Fe'ch cofiwn, Mewn angof, ni chewch fod."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2020
- Cyhoeddwyd7 Mai 2020