Dirwyon i ymwelwyr ag Eryri am barcio ar y ffyrdd

  • Cyhoeddwyd
Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o ymwelwyr wedi cael dirwyon am barcio yn anghyfreithlon

Mae miloedd o bobl wedi heidio i Eryri ddydd Sul, gyda pherchnogion "dros 500 o gerbydau" yn wynebu dirwyon am barcio ar ochr y ffordd.

Mae cannoedd o gerbydau wedi parcio'n anghyfreithlon ar ochr y ffordd rhwng Pen-y-Pass - y maes parcio agosaf at gopa'r Wyddfa - a Gwesty Pen-y-Gwryd.

Mae hynny'n golygu nad oes modd i geir sy'n teithio trwy'r ardal i basio ei gilydd mewn mannau.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod "dros 500 o gerbydau" wedi parcio ar ochr y ffordd, a'u bod wedi mynychu i ddarparu cymorth i Gyngor Gwynedd.

Yn ôl gwefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, dolen allanol roedd meysydd parcio Pen-y-Pass, Ogwen, Nant Peris a Phont Bethania yn llawn am 17:15 ddydd Sul.

Mae hefyd yn dangos fod meysydd parcio Llyn Tegid a Llangywer bron yn llawn.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Y Parc Cenedlaethol

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Y Parc Cenedlaethol

Fe wnaeth Alun Gethin Jones, un o wardeniaid y parc cenedlaethol, apelio ar bobl i "osgoi Pen-y-Pass ar unrhyw achos".

"Mae'r ceir wedi parcio ar ffordd gyhoeddus yr holl ffordd o Ben-y-Pass i Westy Pen-y-Gwryd," meddai ar Facebook.

"Mae'n berygl iawn - dydy ceir a seiclwyr ddim yn gallu pasio yn ddiogel.

"Mae cadw pellter cymdeithasol yn cael ei anwybyddu, sy'n peryglu iechyd cyhoeddus yn yr ardal - mae hyn yn warthus.

"Dwi wedi bod yn cadw at y rheolau ac yn cadw fy mhellter am bedwar mis, ond rŵan mae hynny wedi'i daflu allan o'r ffenest."

Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder fod problem parcio ar ochr y ffordd rhwng Pen-y-Pass a Gwesty Pen-y-Gwryd yn gwaethygu