Yr Wyddfa: Gyrwyr yn anwybyddu rheolau parcio newydd

  • Cyhoeddwyd
car heddluFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cerbyd yn barod i gludo ceir sy'n torri'r rheolau a char yr heddlu ym Mhen-y-Pass ddydd Sadwrn

Cafodd tua 60 o gerbydau eu hanfon i ffwrdd o droed yr Wyddfa fore Sadwrn, meddai Heddlu'r Gogledd.

Roedd yr awdurdodau wedi dweud y byddai unrhyw un sy'n anwybyddu'r rheolau parcio newydd yn wynebu dirwy neu "hyd yn oed cludo eu cerbydau oddi yno".

Mae'r maes parcio agosaf at gopa'r Wyddfa ar gau ar benwythnosau tan ddiwedd gwyliau'r haf.

Daw hyn yn dilyn trafferthion wedi i ymwelwyr ddychwelyd i Eryri wrth i'r cyfyngiadau coronafeirws gael eu llacio.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd nifer o ddirwyon eu rhoi'r penwythnos diwethaf am barcio'n anghyfreithlon yn ardal Pen-y-Pass

Cafodd perchnogion cannoedd o gerbydau ddirwyon ddydd Sul diwethaf am barcio'n anghyfreithlon ar ochr y ffordd rhwng maes parcio Pen-y-Pass a Gwesty Pen-y-Gwryd.

Ond dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fore Sadwrn bod pobl yn anwybyddu'r rheolau newydd a bod tua 60 o gerbydau wedi cael eu rhybuddio cyn 08:00.

"Dywedodd y gyrwyr wrthon ni eu bod nhw'n meddwl mai dim ond 'bygwth ffug' oedden ni pan ddywedon ni y byddai ceir yn cael eu cludo i ffwrdd pe bai nhw'n amharu ar y ffordd," meddai'r heddlu.

Ychwanegodd fod cerbyd adfer (recovery vehicle) eisoes wedi'i barcio ym Mhen-y-Pass.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu hefyd wedi bod yn rhoi conau ar yr A5 yn Nyffryn Ogwen i atal parcio anghyfreithlon

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Dywed Heddlu'r Gogledd y byddan nhw'n towio'r ceir [yn y llun uchod] sydd wedi parcio ger Llyn Ogwen.

Er nad ydyn nhw wedi'u parcio yn yr ardal ble mae'r conau, maen nhw'n achosi cerbydau eraill i fynd i'r ffordd gyferbyn ac yn achosi cerddwyr i fynd i'r ffordd, meddai'r heddlu.

"Parcio anystyriol yw hwn," ychwanegodd datganiad.

Beth yw'r trefniadau newydd?

O ddydd Sadwrn, bydd gwasanaeth bws Sherpa, sy'n cysylltu prif feysydd parcio'r ardal gyda gwahanol lwybrau copa'r Wyddfa, yn rhedeg bob 15 munud rhwng 06:45 a 18:40.

Mae gofyn i gerddwyr ddefnyddio'r gwasanaeth i gael mynediad i Ben-y-Pass.

Bydd staff o Gyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri a Heddlu Gogledd Cymru ar ddyletswydd yn yr ardal dros y penwythnos i atgoffa modurwyr.