Yr heddlu am gau tafarn am dorri rheolau Covid-19

  • Cyhoeddwyd
BodunigFfynhonnell y llun, Google

Mae'r heddlu yn galw am gau tafarn yn Sir Ddinbych a fu'n parhau i fod ar agor i gwsmeriaid wedi i'r cyfnod clo coronafeirws gael ei gyflwyno.

Bydd cynghorwyr Sir Ddinbych yn cyfarfod ddydd Iau i drafod y cynnig yn erbyn tafarn y Bodunig ym mhentref Dyserth gan nad oes gan Heddlu'r Gogledd "hyder yng ngallu rheolwyr yr eiddo i'w redeg mewn modd cyfrifol".

Cafodd yr heddlu eu galw gyntaf yn 2014 yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau treisgar.

Roedd honiad hefyd bod cyffuriau'n cael eu cymryd yn y dafarn a bod y tafarnwr, Derek Coulton yn anwybyddu goryfed yno.

Fe wnaeth y cyngor sir bryd hynny wahardd Mr Coulton o'i rôl fel goruchwyliwr cofrestredig y dafarn.

Ond mewn adroddiad fydd gerbron y cyngor ddydd Iau, dywedodd Cwnstabl Manus Sheridan fod Mr Coulton bellach yn rheolwr gyda Nihat Colakoglu fel goruchwyliwr penodedig.

Yn oriau mân 21 Mawrth eleni fe welodd yr heddlu oleuadau yn y Bodunig, a gan fod rhaid i'r dafarn gau y bore canlynol o dan reolau Covid-19, fe aethon nhw i mewn a gweld 15 o bobl yn y bar.

Er iddyn nhw siarad gyda Mr Coulton bryd hynny, daeth adroddiadau pellach fod y dafarn ar agor o hyd.

'Wedi cael sawl rhybudd'

Dywedodd Cwnstabl Sheridan: "Fe wnaeth mwyafrif y tafarnwyr gadw at y rheolau i atal y pandemig Covid-19, ond fe wnaeth Mr Coulton dorri'r rheolau, a pharhau i wneud hynny er iddo gael rhybudd ar sawl achlysur gan yr heddlu a'r awdurdod trwyddedu."

Mae'r heddlu nawr yn galw am gau'r Bodunig yn barhaol gan mai dyma'r ail dro i'r drwydded orfod cael ei hadolygu, ac maen nhw'n dweud fod Mr Coulton yn rhoi ei hunan, cwsmeriaid a gweithwyr allweddol mewn perygl.

Mae Mr Coulton wedi cyflwyno ymateb ysgrifenedig i'r cais i'r cyngor, ynghyd â thri llythyr o gefnogaeth sy'n cydnabod y materion a godwyd gan yr heddlu, ond sydd am weld y dafarn yn parhau ar agor.