Disgwyl hanner y tafarndai a chaffis i ailagor

  • Cyhoeddwyd
Diod
Disgrifiad o’r llun,

Criw yn mwynhau llymaid cynnar mewn tafarn yn Nhyndyrn fore dydd Llun

Mae tafarndai, bariau, bwytai a chaffis yn gallu dechrau croesawu cwsmeriaid yn ôl o ddydd Llun ymlaen yn yr awyr agored.

Ond y darogan yw mai dim ond tua'r hanner fydd yn penderfynu gwneud hynny.

Bydd rhai o'r enwau mawr fel Wetherspoons a Brains yn disgwyl tan fod gan y cyhoedd hawl i fynd tu fewn ar 3 Awst.

Y gred yw y bydd y trosiant yn rhyw 25% o'r hyn oedd cyn y cyfnod clo ac mae busnesau annibynnol yn dweud mai dim ond eu hanner fydd yn agor.

Yn nhafarn y Royal George yn Nhyndeyrn, Dyffryn Gwy, bore 'ma, daeth criw o ffrindiau at ei gilydd i fanteisio ar y cyfle cyntaf i rannu peint yn yr awyr agored. "Mae'n grêt bod llefydd fel hyn, calon y gymuned, ar agor unwaith eto, " medd un o'r cwsmeriaid wrth ohebydd y BBC, Tomos Morgan.

"Mae'n wych cael peint unwaith eto gyda ffrindiau 'sai wedi eu gweld ers tri mis," medd ei ffrind.

Mae'r tafarnwr yn disgwyl noson brysur heno gyda'r llyfr archebion yn llawn wrth i gwsmeriaid ffyddlon ddychwelyd i gefnogi'r dafarn.

Ail-wampio tafarn

Ddydd Gwener cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford y bydd y diwydiant lletygarwch yn cael ailagor tu fewn ddechrau mis nesaf os yw'r nifer o achosion o'r coronafeirws yn parhau i ostwng.

Mae cael yr hawl i ailagor yn rhannol o ddydd Llun ymlaen yn newyddion da i weithwyr un dafarn yn Llŷn yn arbennig.

Ers canol y flwyddyn ddiwethaf mae tafarn Y Bryncynan ger Morfa Nefyn wedi bod ynghau er mwyn ei hail-wampio yn llwyr ar gost o £1.3m.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r staff yn edrych ymlaen i fynd yn ôl i'r gwaith medd Nathan Rogowski o dafarn Y Bryncynan

Roedd i fod i ail-agor ar Fawrth 24, ond ddiwrnod ynghynt daeth y cyfyngiadau yn sgil Covid 19 a bu rhaid aros tan y dydd Llun yma.

Bydd y dafarn yn rhoi gwaith i ddeg o bobol leol yn llawn amser a 20 arall yn ystod tymor yr ymwelwyr.

"Mae'r lle wedi newid yn gyfan gwbl. Mi oedd o reit dywyll, a rŵan mae hi reit olau yma. Mae yna fwy o ffenestri wedi cael eu rhoi ac mae'r pren ar y muriau yn olau," meddai cogydd y dafarn, Nathan Rogowski.

Cynnig lle tu allan

"Mae'r gegin wedi cael ei ail-wneud, mae'r tu allan wedi cael ail-wneud ac mae yna lot o lefydd i bobol eistedd allan.

"Dan ni'n gallu darparu lle i gant saith deg o bobol fwyta y tu mewn a rhyw gant y tu allan," ychwanegodd.

Dywedodd ei fod yn teimlo yn drist pan na chafodd y dafarn agor yn sgil y pandemig a bod pawb rŵan eisiau dod yn ôl i'r gwaith.

Ffynhonnell y llun, Mick Lobb/ Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Nod perchennog The Pelican yw agor tan wedi 20:00 ar benwythnosau

Mae Mark Griffiths yn berchen ar bedair tafarn ym Mhen-y-bont a Bro Morgannwg a bydd yn dechrau gweini i gwsmeriaid o ddwy ohonynt.

Mae The Pelican yn Aberogwr wedi bod yn gweini bwyd fel cludfwyd ers mis.

Roedd y busnes yn gwneud yn dda meddai Mr Griffiths.

"Ond roedd yn rhaid i ni arafu. Roedden ni yn gwerthu gormod ac roedd y bryncyn tu ôl fel llethr/ bryncyn Henman (y chwaraewyr tennis)."

Ei obaith yw agor y dafarn o 12:00 tan 20:00 ac efallai yn hwyrach ar y penwythnosau.

Dyna'r nod yn ei dafarn arall, The Haywain yn Bracla, Pen-y-Bont hefyd lle mae pabell fawr wedi ei gosod i 80 o bobl yn y maes parcio rhag ofn i'r tywydd droi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dibynnu ar y tywydd

Mae cannoedd wedi archebu byrddau yn The Haywain.

Ond mae wedi penderfynu peidio agor y ddwy dafarn arall sydd ganddo, The Five Bells a The Seahorse am nad oes yna lefydd i bobl eistedd tu allan.

"Mae'r tywydd yn edrych yn eithaf da. Felly os allai gael 100 o bobl tu allan yn y ddwy dafarn bob diwrnod wythnos nesaf, bydd hynna yn eithaf da," meddai.

"Ni wedi colli arian yr haf nawr, felly does dim pwynt trio ei gwrso. Mae'n fater o wneud yr hyn allwch chi."

Roedd ailagor tafarndai yn Lloegr ddydd Sadwrn yn "anghyfrifol" yn ôl Adrian Emmett o dafarn The Lion yn Nhreorci.

"Dwi'n meddwl bod Llywodraeth yr Alban a Chymru yn gwneud y peth iawn yn agor ddydd Llun. Fe fydd yn gwneud fy ngwaith i yn llawer haws."

Dywedodd y bydd y "pwysau" ar y staff i wneud yn siŵr bod y cwsmeriaid yn cadw i'r rheolau.

Ffynhonnell y llun, Bragdy Gŵyr
Disgrifiad o’r llun,

Canolbwyntio ar archebion ar y we mae Bragdy Gŵyr ers y cyfnod clo

Mae Bragdy Gŵyr, sydd wedi ei leoli yn Abertawe, wedi bod yn dosbarthu cannoedd o gasgenni o gwrw yn y cyfnod paratoi.

Ond mae Bob Dudley-Jones o'r cwmni yn dweud y bydd llawer o dafarndai yn y ddinas yn parhau ar gau.

"Does gan lawer ohonyn nhw ddim gerddi yfed, neu mae'n rhaid mynd drwy'r dafarn i'w cyrraedd," meddai.

"Mae mwy ar yr arfordir a threfi glan môr ond am fod pobl yn eistedd tu allan, bydd llawer yn dibynnu ar y tywydd."

Disgrifiad o’r llun,

Un o bryder tafarnwyr yw y bydd gweithredu rheolau 2-fetr yn cyfyngu ar incwm

Rhybudd Cymundod Bwytai Cymraeg Annibynnol yw y gallai llai na hanner llefydd annibynnol agor eu drysau ddydd Llun am fod yna gyfyngiadau ar y gallu i wneud elw.

Ni fydd bragdy SA Brains, sydd yn rheoli ac yn berchen ar 104 o dafarndai, yn ailagor ond mae'n bosib y bydd rhai o'u 40 o denantiaid yn gwneud.

Mewn datganiad maen nhw'n dweud eu bod yn edrych ymlaen at groesawu cwsmeriaid pan fydd modd ailagor yn llawn.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dyw rhai tafarndai ddim am ailagor nes y bydd hawl gan gwsmeriaid fynd tu mewn am ddiod

Dyma yw agwedd Wetherspoons a Mitchells& Butlers. Mae'r ddau yn berchen 50 o dafarndai yng Nghymru a ddim yn ailagor.

Ond bydd Stonegate yn agor nifer o'i hadeiladu gan gynnwys The Woodville ac Owain Glyndŵr yng Nghaerdydd, Railway Hotel ym Mhenarth a The Carlton yn Llandudno.

Yn ogystal bydd grŵp Ei yn gweini peintiau o 64 safle. Yn eu plith mae The Old Cross Keys yn Abertawe, Bulls Head yn y Bala a The Mitre ym Mhwllheli.