Tri achos Covid-19 ymysg staff tafarn yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
North and South Wales BankFfynhonnell y llun, Geograph | Richard Hoare
Disgrifiad o’r llun,

Mae tafarn y North and South Wales Bank ar y stryd fawr yn Wrecsam

Mae tri aelod o staff mewn tafarn yn Wrecsam wedi cael profion positif am coronafeirws.

Fe wnaeth cadwyn JD Wetherspoon gadarnhau'r achosion ymhlith staff yn nhafarn y North and South Wales Bank ddydd Iau.

Dywedodd llefarydd bod nifer o aelodau eraill o staff y dafarn yn hunan-ynysu yn sgil yr achosion.

Ychwanegodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod yn gweithio gyda Chyngor Wrecsam i ymchwilio i'r achosion.