Oedi a dryswch dros ganlyniad prawf Covid yn siomi teulu

  • Cyhoeddwyd
Heulwen
Disgrifiad o’r llun,

Heulwen Davies: Y profiad o geisio cael canlyniadau prawf Covid yn 'siomedig a rhwystredig'

Fe glywodd menyw, a gafodd ei phrofi gyda'i theulu am Covid-19, efallai na fyddan nhw'n cael y canlyniadau oherwydd nad oedd uned profi symudol wedi rhoi côd bar iddyn nhw.

Dywedodd Heulwen Davies o Fachynlleth fod y profiad o geisio cael y canlyniadau ar ôl y prawf ganol mis Awst wedi ei gadael yn teimlo'n "siomedig a rhwystredig".

Clywodd ei theulu i gyd eu bod wedi profi'n negyddol ar ôl aros mwy na thridiau am y canlyniadau ar ôl cael y prawf yng nghanolfan profi'r Drenewydd.

Dywed Bwrdd Iechyd Addysgu Powys fod y cyngor a gafodd Heulwen ynglŷn â methu cael y canlyniadau yn seiliedig ar y system côd bar a ddefnyddiwyd yn Lloegr ac nid y system yng Nghymru.

Mae canolfannau yng Nghymru yn defnyddio labeli labordy i gofnodi samplau sydd wedi'u cyflwyno i'w profi.

Ond roedd y bwrdd iechyd yn cydnabod bod y cyfnod aros o dridiau am y canlyniadau yn rhy hir - mae canlyniadau profion trigolion Powys yn cymryd 30 awr i'w prosesu ar gyfartaledd.

Aeth Heulwen, ei gŵr a'i merch wyth oed am brawf ar ôl i berson yr oedden nhw wedi ymwneud â nhw brofi'n bositif am Covid-19.

Dywedodd Heulwen fod y broses o gymryd y sampl wedi'i threfnu'n dda ond nad oedd pethau'n gweithio cystal wrth ddisgwyl y canlyniadau.

Fe glywodd y teulu ar ddiwrnod y prawf y dylen nhw gael y canlyniadau o fewn 48 awr, ond os nad oedden nhw wedi clywed unrhyw beth y dylen nhw ffonio'r llinell gymorth.

'Colli ffydd yn y system'

Dywedodd Heulwen: "Ro'n ni wedi penderfynu ynysu yn y cartref yn ystod y cyfnod yna, buon ni fewn am bron i dri diwrnod a ddim wedi clywed dim byd. Felly dyma benderfynu galw'r rhif ffôn Covid, a chael sioc o glywed oherwydd bod dim 'barcode' gyda ni bod dim modd iddyn nhw tresio'r canlyniadau o gwbl a falle na fyddwn ni'n cael y canlyniadau o gwbl.

"O'n i'n teimlo'n rhwystredig iawn - yn ffodus doedd ganddo ni ddim symptomau ond ar yr un pryd os wyt ti'n cael unrhyw brawf da chi'n disgwyl canlyniad felly roedd hwnna'n sioc a dweud y lleiaf.

"Dwi wir wedi colli ffydd yn y system ac yn teimlo'n siomedig a'n bod ni'n cael ein gadael lawr yn yr ardal yma, ac mae hynny'n gwneud i fi boeni'n ofnadwy sut fydd hi pan fydd y plant yn ôl yn yr ysgol."

Dywedodd Heulwen hefyd nad oedd y system olrhain cysylltiadau wedi cysylltu â hi ar ôl i'r person y bu ei theulu yn ei gwmni brofi'n bositif am y coronafeirws.

Dywed Heulwen ei bod yn gobeithio y bydd ei chwyn yn helpu'r system brofi i wella, yn enwedig wrth i blant baratoi i fynd yn ôl i'r ysgol pan fydd y galw am brofion yn debygol o gynyddu.

Ychwanegodd Heulwen: "Mae hwn yn bandemic, dydy o ddim yn rhywbeth i'w gymryd yn ysgafn. Dwi'n teimlo ein bod ni'n gwneud ein gorau i ddiogelu'n hunain, ond dydy'r system ddim yna ar hyn o bryd a dwi wir yn gofidio os na fydd pethau'n well erbyn i'r plant fynd nôl i'r ysgol sut fydd hi yn yr ardal yma, ac ardaloedd eraill."

Dywedodd Helen Mary Jones, Aelod o'r Senedd dros y Canolbarth a Gorllewin Cymru, ei bod wedi clywed pryderon ynglŷn â'r system profi gan bobl eraill, ond bod yr achosion hynny wedi digwydd beth amser yn ôl a'u bod yn ganlyniad i drafferthion wrth lansio'r gwasanaethau newydd.

Dywedodd Helen Mary Jones: "Mae mor bwysig i ni sicrhau bod y system o tracio pobl, rhoi prawf a sicrhau eu bod yn cael ateb cyflym yn mynd i fod yn hanfodol i sut ydyn ni'n ymateb i'r feirws a dechrau mynd yn ôl i fywyd sy'n fwy normal. Os mae pobl yn cael y math yma o brofiad, does dim rhyfedd eu bod nhw'n colli ffydd ac wedyn mae risg o danseilio ymateb ni fel gwlad i Covid.

"Mae'n bwysig ein bod ni yn cael ateb gan y bwrdd iechyd ynglŷn â pham oedden nhw wedi gorfod aros mor hir am ganlyniad a pham nad oedden nhw wedi clywed gan y system tracio, achos mae mor bwysig bod y system yn gweithio'n iawn."

Mewn datganiad dywedodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ei fod yn ddrwg ganddo glywed am brofiad y teulu ac y byddai'n ymchwilio er mwyn gwella'r gwasanaeth.

Yn y datganiad mae'r bwrdd iechyd yn egluro bod Heulwen wedi clywed efallai na fyddai'r canlyniadau ar gael oherwydd camddealltwriaeth o wahanol systemau profi yng Nghymru a Lloegr.

Dywed y datganiad: "Mae'r profion sy'n dibynnu ar labordai GIG Cymru er mwyn darparu canlyniad yn defnyddio system labeli. Mae profion sy'n cael eu hanfon i'r Lighthouse Laboratories ar gyfer canlyniad yn defnyddio system côd bar.

"Hyd at 21 Awst roedd ein canolfannau profi yn y Drenewydd a Llanfair-ym-Muallt yn defnyddio labordai GIG Cymru ac felly'n defnyddio system labeli Cymru.

"Yn anffodus, ar yr achlysur hwn mae'n ymddangos y gallai'r gwasanaeth ffôn 119 - sy'n gweithio ledled y DU - fod wedi darparu cyngor yn seiliedig ar system ganlyniadau Lloegr yn hytrach na system ganlyniadau Cymru."

Mae canolfannau profi ym Mhowys bellach yn defnyddio Lighthouse Laboratories i ddarparu'r canlyniadau, sy'n golygu y bydd cleifion yn dechrau gweld system côd bar ym Mhowys hefyd.

Mewn perthynas â'r system olrhain cysylltiadau dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae timau olrhain cyswllt yn dibynnu ar y wybodaeth a roddir iddynt gan y bobl sy'n profi'n bositif.

"Dim ond y rhai a ddiffinnir fel cysylltiadau 'agos' achos positif, fel yr amlinellir ar ein gwefan, y bydd timau olrhain cyswllt yn cysylltu â nhw."