Yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd yn ailagor

  • Cyhoeddwyd
DippyFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Ymwelydd diweddar dros dro ag Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd oedd Dippy y Diplodocus - ychydig cyn i'r pandemig daro

Ddydd Iau fe fydd yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd yn ailagor i'r cyhoedd am y tro cyntaf mewn pum mis.

Fe fydd yr amgueddfa ar agor pedwar diwrnod yr wythnos i ganiatáu i staff lanhau'r safle'n drylwyr ar y diwrnodau y bydd ar gau.

Y bwriad ydy galluogi 1,200 o ymwelwyr bob dydd, ond bydd angen archebu tocynnau ar-lein ymlaen llaw.

Dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol Amgueddfa Cymru, David Anderson eu bod "wrth ein boddau".

"Dyma pam rydyn ni'n bodoli, i weld ymwelwyr yn dod trwy'r drws ac yn cael eu rhyfeddu gan y gwrthrychau gwych sydd gennym ni," meddai.

Bydd yn rhaid i ymwelwyr â'r amgueddfa yng Nghaerdydd ddilyn canllawiau diogelwch coronafeirws a defnyddio'r system un ffordd sydd wedi ei gosod o amgylch pob un o'i arddangosfeydd.

Ni fydd yn bosibl cael mynediad i nifer fach o ystafelloedd yn yr oriel gelf oherwydd maint yr ystafelloedd, gan ei bod yn anodd cydymffurfio gyda rheolau ymbellhau cymdeithasol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae David Anderson yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl a rhannu'r "trysor" sydd gan Gymru

Mae Amgueddfa Cymru wedi ailagor ei safleoedd yn raddol. Agorodd safle Sain Ffagan yn gynharach yn y mis, a bydd safleoedd eraill yn dilyn dros yr wythnos nesaf.

Ers dechrau'r cyfnod clo mae Amgueddfa Cymru wedi colli tua £400,000 pob mis tra bo'r amgueddfeydd wedi bod ynghau.

Dywedodd Mr Anderson: "Mae hynny'n arwyddocaol i ni neu i unrhyw amgueddfa. Rydyn ni wedi gwneud ein gorau i geisio dod o hyd i ffynonellau eraill i ddod dros hyn.

"Rydyn ni hefyd wedi defnyddio'r her o fod ar gau i weithio mewn cymunedau ledled Cymru. A nawr rydyn ni'n ymgynghori â'r cyhoedd ar yr hyn maen nhw am i'r amgueddfeydd fod dros y 10 mlynedd nesaf.

"Ond does dim byd cystal â dod yn ôl i'r safleoedd hyn ac unwaith eto gallu rhannu'r trysor hwn sydd gan Gymru."